Roedd hi'n brysur iawn yr wythnos hon wrth i'r Ganolfan Diogelwch Cymunedol NEWYDD gael ei lansio yng ngorsaf heddlu Glyn Ebwy. Mae'r ganolfan yn fan cyfarfod amlasiantaeth cydweithredol i bartneriaid sy'n ceisio creu cymunedau diogel a chyfeillgar ym Mlaenau Gwent - un o'r amcanion Lles ar gyfer yr ardal.
Esbonia Prif Arolygydd Jason White: “Bydd yr heddlu a phartneriaid yn dod at ei gilydd yn yr un lleoliad dwywaith yr wythnos yn awr i drafod ac ymdrin yn effeithiol â materion, troseddau ac anhrefn amser real trwy ddefnyddio dulliau cydweithredol. Ychwanegwyd at hyn trwy greu cyfarfod pennu tasgau i bartneriaid bob pythefnos, lle bydd yr holl bartneriaid yn nodi ac yn ymateb i fregusrwydd a galw yn ardal °¬²æAƬ ac yn datrys problemau a chynllunio ar gyfer diogelwch.
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae hwn yn ddull sy'n canolbwyntio ar bobl a llefydd ac sy'n cynnwys trafodaethau am bobl sydd wedi bod yn ddioddefwyr fwy nac unwaith, troseddwyr cyson iawn, galwyr mynych, ardaloedd problemus o ran troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a blaenoriaethau sydd wedi cael eu pennu gan y gymuned. Yn ogystal, bydd y materion hyn yn cael eu cydnabod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan gynnwys: Tai Calon, Seren, Melin ac asiantaethau partner eraill. Y nod yw datblygu dull i ymateb i faterion diogelwch cymunedol sy'n seiliedig ar ardal trwy ddatrysiadau ar gyfer y tymor byr, canolig a hir.
“Mae'r syniad yn cyd-fynd ag egwyddorion arweiniol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer gwaith partner, sy'n canolbwyntio ar bum amcan - Meddwl am y Tymor Hir, Atal, Integreiddio, Cydweithio a Chynnwys.
“Mae hwn yn syniad newydd cyffrous a fydd yn cael ei ailadrodd ledled Gwent eleni, gan gynnwys canolfan yng Nghasnewydd yn ystod yr haf 2019.â€