°¬²æAƬ

Lansiad Canllaw Chwarae

Cynhaliwyd Asesiad Digonolrwydd Chwarae yn 2016 a nododd yr angen i hyrwyddo chwarae yn yr awyr agored a mannau chwarae ym Mlaenau Gwent i’r gymuned.

Lluniwyd y llyfryn mewn partneriaeth â chydweithwyr o wahanol adrannau o’r Awdurdod a sefydliadau allanol er mwyn adnabod safleoedd addas i hyrwyddo mewn llyfryn Chwarae.

Mae’r llyfryn yn adnabod safleoedd sy’n wych i chwarae ynddyn nhw ac mae hefyd yn cynnwys llawer o gynghorion ynglŷn â chwarae, yn cynnig gwahanol syniadau ar gyfer chwarae ac yn darparu cysylltiadau at adnoddau eraill.

Lansiwyd y llyfryn yn Ysgol Gynradd Trehelyg, sydd eisoes wedi manteisio trwy fod staff wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol. Maen nhw wedi asesu eu hamserau cinio o dan y rhaglen Ysgolion Cyfle i Chwarae ac wedi gwneud newidiadau i’r ffordd maen nhw’n chwarae, gan gynnwys:

  • Agor y rhwystrau ar y maes chwarae er mwyn i bob oedran allu chwarae gyda’i gilydd, yn hytrach na bod ar wahân
  • Cyflwyno cwt adnoddau rhydd er mwyn galluogi plant i fod yn greadigol a dyfeisgar yn eu chwarae

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, aelod Gweithredol dros Addysg:

“Mae chwarae mor bwysig i blant, ac mae’n dda gweld cymaint o ddisgyblion Ysgol Gynradd Trehelyg yn dysgu sgiliau hanfodol trwy chwarae, tra’n cael hwyl ar yr un pryd. Bydd y llyfryn hwn yn galluogi ysgolion, grwpiau a theuluoedd ledled °¬²æAƬ i wneud yr un fath.â€

Bydd y llyfryn yn cael ei ddosbarthu ledled ysgolion, canolfannau Dechrau’n Deg, timau Teuluoedd yn Gyntaf a hefyd ar gael o CPI Blaenau.