°¬²æAƬ

Helpwch ni i wella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc drwy ddod yn Llywodraethwr Ysgol

Mae llywodraethwyr ysgol yn wirfoddolwyr sy’n ymroddedig i weithio gyda thîm arweinyddiaeth yr ysgol i gefnogi eu gwaith i wella deilliannau a llesiant disgyblion ac effeithlonrwydd yr ysgol. Mae llywodraethwyr yn gweithio fel tîm gyda Phennaeth yr ysgol; mae llywodraethwyr yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ar faterion tebyg i gyfeiriad y dyfodol ar gyfer yr ysgol, strwythur staffio yr ysgol, gwariant cyllideb yr ysgol a pholisïau a pherfformiad yr ysgol.

Cafodd gwasanaethau Addysg °¬²æAƬ eu trawsnewid, mae categoreiddio ein hysgolion yn parhau yn gryf. Mae adroddiadau arolwg Estyn yn dangos y gwaith rhagorol/da sy’n mynd rhagddo ac rydym mewn sefyllfa dda i barhau i wella yn unol ag agenda cenedlaethol diwygio addysg.

Rydym felly yn edrych am unigolion sydd â dymuniad a phenderfyniad i weithio gyda thimau arweinyddiaeth ein hysgolion i helpu i sicrhau gwelliannau pellach ar gyfer ein plant a phobl ifanc. Rydym yn edrych am bobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau i helpu ein hysgolion i barhau eu taith wella. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o addysg; mae croeso neilltuol i ymgeiswyr gyda phrofiad mewn busnes, adnoddau dynol, cyllid a dadansoddi data. Darperir ystod cynhwysfawr o hyfforddiant a chefnogaeth. Mae’n gyfle cyffrous i chi:

• Ennill sgiliau newydd;
• Cymryd rhan mewn gwaith tîm;
• Cyfrannu at y gymuned;
• Gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.

Mae gwahanol fathau o lywodraethwyr ysgol ond rydym yn edrych yn neilltuol am lywodraethwyr Awdurdod Lleol a Chymuned i lenwi ein swyddi gwag presennol. Caiff llawer o gyfarfodydd a weithgareddau dysgu proffesiynol yn awr eu cynnal yn rhithiol.

Felly, oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella llesiant ac addysg plant ym Mlaenau Gwent?

Ydych chi’n medru ymrwymo i fynychu cyfarfodydd rheolaidd a dilyn hyfforddiant?

Yna rydym eich angen chi fel llywodraethwr ysgol.

Mae gennym swyddi gwag yn yr ysgolion dilynol ar hyn o bryd:

Swyddi gwag Llywodraethwyr Awdurdod Lleol

• Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm
• Ysgol Gynradd Coed y Garn
• Ysgol Gynradd Deighton
• Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Santes Fair
• Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort
• Ysgol Gynradd Willowtown

Swyddi gwag Llywodraethwyr Cymunedol

• Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr
• Ysgol Gymraeg Bro Helyg
• Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm
• Ysgol Gynradd Sant Illtyd

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Michelle Jones: michelle.jones@blaenau-gwent.gov.uk