°¬²æAƬ

Hanner miliwn o bunnau i wella cyfleusterau Parc Bryn Bach

Bydd Parc Bryn Bach, Tredegar yn derbyn £500,000 o gyllid i wella ei dŷ bynciau a chanolfan ymwelwyr, darparu ardal chwarae bren newydd a gwella llwybrau teithio llesol i gysylltu'r parc gyda chymunedau lleol.

Bydd parciau a safleoedd treftadaeth ledled Cymru yn derbyn cyfran o fwy na £6.6 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect a gynlluniwyd i hybu potensial asedau naturiol a diwylliannol.

Maent ymysg 11 safle o'r fath i gael eu henwi fel Pyrth Darganfod ar gyfer Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sydd â'r nod o ysgogi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Ystyrir bod buddsoddiad mewn safleoedd Pyrth Darganfod yn hanfodol i sicrhau y gallant ddarparu gofodau diogel a chroesawgar y gall cymunedau lleol ac ymwelwyr eu mwynhau.

"Yn ogystal â dod yn gyrchfannau yn eu rhinwedd eu hunain, mae gan Byrth Darganfod gyfle gwych i adrodd straeon y Cymoedd ac annog pobl leol ac ymwelwyr i grwydro o gwmpas ardaloedd cyfagos, gan gynnwys trefi a phentrefi lleol, a'r dirwedd ehangach," meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi sydd â chyfrifoldeb am Dasglu'r Cymoedd, mai nod y prosiectau yw rhoi syniad Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar y map yn genedlaethol ac yn rhyngwladol "fel lle a all ysbrydoli, cyffroi a denu ymwelwyr lleol ac o bell".
"Byddant yn hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd, sef un o brif nodau Tasglu'r Cymoedd," meddai.
"Datblygwyd y cynlluniau hyn drwy ymgysylltu'n helaeth â chymunedau'r Cymoedd ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd i ddod â Pharc Rhanbarthol y Cymoedd yn fyw."

Ar hyn o bryd mae Parc Bryn Bach yng ngofal Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Gweithiodd Cyngor °¬²æAƬ a'r Ymddiriedolaeth mewn partneriaeth i gyflwyno cais a sicrhau'r cyllid.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor °¬²æAƬ, fod y Cyngor yn falch y bu'r cais ar y cyd am gyllid yn llwyddiannus. Dywedodd:

“Rydym wrth ein bodd gyda'r newyddion y bydd buddsoddiad sylweddol ym Mharc Bryn Bach i wella ac ychwanegu at gyfleusterau yn y lleoliad gwych yma..

Rydym wedi mwynhau twf cyson mewn twristiaeth yma ym Mlaenau Gwent dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwyddom fod hyn yn rhoi budd economaidd sylweddol i'n cymunedau, felly rydym yn hynod falch o'r cyfle i hybu hyn hyd yn oed ymhellach. Bydd y buddsoddiad yn sicrhau y gall y parc fel cyrchfan hamdden ddarparu profiadau safon uchel i ddefnyddwyr ac ymwelwyr o bob oed a denu pobl o bob rhan o'r wlad.

Fel Cyngor rydym yn ymroddedig i hyrwyddo a hybu llesiant preswylwyr lleol ac yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid i annog a chefnogi ffordd iach o fyw a hyrwyddo a dathlu'r awyr agored, felly mae'n wych cael y newyddion hwn am gyfleusterau hamdden sydd ar garreg ein drws.â€

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Masnachol a Gweithredol Hamdden Aneurin:

"Mae Hamdden Aneurin ar ben ein digon y cafodd Parc Bryn Bach ei enwi fel un o safleoedd Pyrth Darganfod newydd Cymru ac yn edrych ymlaen at gael cyfle i weithredu syniadau newydd i wella cyfleusterau'r parc drwy gyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Drwy gyfres o sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd, dewisodd y gymuned i ddatblygu llety tÅ· bynciau newydd o fewn y Ganolfan Ymwelwyr a gwneud gwelliannau i'r ardal chwarae plant. Caiff y ddau brosiect eu gweithredu mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ a'i ariannu gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd gwaith yn dechrau yn y dyfodol agos, ond bydd cyfleusterau yn y parc yn parhau i fod ar gael ar hyd y gwaith gwella.

Gwelodd Parc Bryn Bach dwf gwych dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan dderbyn bron 700,000 o ymwelwyr yn y 12 mis diwethaf yn unig, gydag ymwelwyr yn teithio o bob rhan o'r ardal i fwynhau cerdded ar lan y llyn, gweld y bywyd gwyllt, chwarae rownd o golff neu golff troed a mwynhau tamaid i'w fwyta yng nghaffi Lake View, sydd hefyd yn croesawu cŵn.