Yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus ar reoli glaswelltir ar draws awdurdodau lleol Gwent, caiff dull gweithredu Natur Wyllt o reoli ei gydlynu eleni i gynnwys ardaloedd ehangach ar draws Gwent, gyda’r genhadaeth o’i wneud yn ‘gyfeillgar i beillwyr’ drwy alluogi mwy o flodau gwyllt i dyfu yn ein gofodau gwyrdd. Bydd y prosiect, a gyflwynir fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, yn cysylltu gyda chymunedau lleol ar draws De Ddwyrain Cymru, gan godi ymwybyddiaeth o ddirywiad peillwyr ac annog perchnogaeth a grymuso cymunedol i gyflenwi camau gweithredu fydd yn eu helpu i adfer.
Bydd Natur Wyllt yn sefydlu dull gweithredu cydlynol at reoli gofodau gwyrdd, a gaiff hefyd ei alw yn Seilwaith Gwyrdd, i greu cynefinoedd peillwyr cyfoethog mewn blodau gwyllt ar draws 5 ardal awdurdod lleol (°¬²æAƬ, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen). Caiff Cod Gweithredu a rhaglen hyfforddiant ei gyflwyno, gan gefnogi rheolaeth peillwyr effeithlon o fewn y rhanbarth.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at ddatblygu Polisïau Peillwyr ar gyfer awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol eraill i sicrhau gwelliant tir graddfa fawr ar gyfer peillwyr, gan greu rhwydweithiau ecolegol gwydn.
Mae gweithgareddau a digwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2022 i hyrwyddo rheoli blodau gwyllt a peillwyr, felly cadwch olwg am ddiweddariadau pellach ar y wefan neu ein dilyn arÌýTwitter@NatureisntneatÌýa @Gwentgreengrid i gael yr holl newyddion diweddaraf.
Dywedodd y Cyng Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar Gyngor °¬²æAƬ:
Ìý
“Mae Natur Wyllt yn ychwanegu at ac yn parhau’r holl waith caled a’r cynnydd a wnaed ar hybu niferoedd peillwyr o fewn °¬²æAƬ ac ar draws Gwent gyfan. Mae hyrwyddo dull o weithio ar y cyd ar draws Gwent yn ein galluogi i gynnal dull gweithredu mwy cydlynol at reoli cynefinoedd cyfeillgar i beillwyr mewn modd cynaliadwy, yn unol â’r wybodaeth nad yw peillwyr a bywyd gwyllt arall yn destun i’r un ffiniau a therfynau ag a ddilynwn ni fel sefydliadau ac fel pobl.
Ìý
“Mae dirywiad mewn peillwyr yn achos pryder i bawb ohonom. Mae Natur Wyllt yn gyfle cyffrous i barhau ein gwaith caled a chymryd camau pellach at helpu i atal dirywiad rhai o’n rhywogaethau pwysicaf. Mae newidiadau mewn systemau torri gwair, plannu ar gyfer peillio a gwella cynefinoedd presennol i gyd yn gamau pwysig wrth hyrwyddo bioamrywiaeth o fewn Gwent. Mae hyrwyddo adferiad natur a sicrhau arferion rheoli cyfeillgar i beillwyr yn cael eu cynnwys yn ein gwaith fel awdurdod lleol yn hanfodol. Drwy ddefnyddio ein Cynllun Gweithredu Peillwyr a chynlluniau Gweithredu Adfer Natur yn y dyfodol, gallwn sicrhau fod yr egwyddorion hyn yn greiddiol yn ein prosesau gwneud penderfyniad.â€
Dywedodd yr aelod cabinet dros Argyfwng Hinsawdd ar Gyngor Sir Fynwy:
“Yn y flwyddyn hon rydym wrth ein bodd i fedru adeiladu ar y cynnydd a wnaed o fewn pob un o’r awdurdodau lleol i hybu bioamrywiaeth, yn cynnwys Natur Wyllt ar draws Sir Fynwy. Mae peillwyr yn rhan hanfodol o ecosystemau; mae’r rhan fwyaf o blanhigion angen paill o flodyn arall i gwblhau eu cylch oes a chynhyrchu ffrwythau a had.
Mae gwenyn, pili pala a llawer mwy o bryfed yn cyflawni’r gwasanaeth am ddim hwn, gan beillio 88% o blanhigion gwyllt a 75% o rywogaethau cnwd byd-eang. Fodd bynnag, mae peillwyr mewn trafferth. Ers y 1980au, daeth hanner yr holl rywogaethau peillwyr yn llai cyffredin ac mae poblogaethau gwenyn a pryfed hofran wedi dirywio gan 30%. Er y gwnaed cynnydd, diolch i newidiadau tebyg ein polisi torri gwallt dethol, mae gwaith yn dal i’w wneud ac mae eleni yn cynnig llawer o gyfleoedd gwych i wneud gwahaniaeth.â€
Mae gan Gwent lawer o rywogaethau o beillwyr sydd mewn risg, yn cynnwys y Wenynen Gribwr Fain, sydd ag un o’i gadarnleoedd ar Wastadeddau Gwent.
Mae newidiadau i helpu cadw rhywogaethau blodau yn fyw am fwy o amser nid yn unig yn darparu bwyd a chynefinoedd ar gyfer y peillwyr a rhywogaethau eraill, ond hefyd yn cynnwys amsugno dŵr, yn dal a storio carbon ac yn gwella iechyd y pridd. Mae ymchwil yn awgrymu fod creu amgylcheddau sy’n cynnig ystod ehangach o fywyd gwyllt o fudd i iechyd a llesiant meddwl pobl, gan eu hannog i arafu a mwynhau edrych ar flodau, pryfed a bywyd gwyllt arall.
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am Seilwaith Gwyrdd:
“Mae cydlynu dull gweithredu Natur Wyllt drwy Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gyffrous, gan fod y strategaeth hon yn ymateb i ddirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid hinsawdd. Gan ddefnyddio dull gweithredu Natur Wyllt, mae’r prosiect yn anelu i wella rhagolygon ar gyfer bywyd gwyllt, gan roi cerrig camu hanfodol i rywogaethau symud rhwng ardaloedd cynefin da ar lefel ranbarthol.â€
Mae’r prosiect yn rhan o gyfres o raglenni a gyflwynir dan Brosiect Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, a gefnogir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.
Mwy o wybodaeth amÌý