°¬²æAƬ

Gwasanaethau addysg y Cyngor yn gwneud cynnydd da

Mae Cyngor °¬²æAƬ wedi croesawu adroddiad Estyn ar ei wasanaethau addysg sy’n dangos fod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd da ers ei arolwg diwethaf ac y cafodd meysydd pwysig ar gyfer gwella eu cyfarch.

Ìý

Cynhaliodd Estyn eu harolwg dros nifer o ddyddiau ddiwedd mis Tachwedd/dechrau Rhagfyr a chysylltu gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae’r adroddiad terfynol yn cydnabod ymroddiad cryf i addysg ymhlith uwch swyddogion a chynghorwyr; cynllunio da i sicrhau y caiff anghenion addysgol pob dysgwr eu cyflawni; twf addysg Gymraeg ac, yn galonogol, waith y Cyngor i gefnogi dysgwyr a theuluoedd agored i niwed yn y gymuned drwy ei agenda gwrth-dlodi a gwasanaethau cymorth ysgolion.

Mae meysydd a nododd Estyn ar gyfer gwella, yn cynnwys 3 argymhelliad. Mae’r Cyngor yn ymateb yn rhagweithiol i ganfyddiadau’r adroddiad, yn cynnwys sicrhau y caiff y weledigaeth a’r nodau ar gyfer addysg eu rhannu’n fwy eang a draws yr awdurdod; gwella hunanarfarnu, cynllunio strategol a rheoli perfformiad; a chyflymu gwelliannau mewn unrhyw ysgolion sy’n peri pryder.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg Cyngor °¬²æAƬ:

“Croesawn adroddiad Estyn ar ein gwasanaethau Addysg, sy’n cydnabod y cynnydd a wnaed drwyddi daw a’n hymroddiad parhaus i ddarparu’r cyfleoedd addysgol gorau oll a dulliau llesiant i gyfoethogi cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc.

“Rydym yn gweithio’n galed i barhau i wella ansawdd ein gwasanaeth ac yn benderfynol i symud ymlaen gyda’n gweledigaeth ar gyfer ‘Gwell Ysgolion; Gwell Dinasyddion; a Gwell Cymunedau’.

“Rydym yn cydnabod argymhellion yr arolygwyr ar sut y gallwn wella ymhellach ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y gwaith da sy’n mynd rhagddo eisoes yn y meysydd hyn.â€

Gallwch ddarllen adroddiad Estyn yn llawn