Mae disgyblion ac athrawon Ysgol Gymraeg Tredegar wedi ymweld â safle eu hysgol newydd i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud. Gwelodd y fframwaith dur, y strwythur sylweddol cyntaf ar y safle, yn ystod ymweliad diweddar â'r safle a gynhaliwyd gan y contractwyr ISG Ltd
Mae Ysgol Gymraeg Tredegar ar hyn o bryd mewn lleoliad dros dro yn NhÅ· Bedwellty, nes y bydd eu hadeilad newydd sbon ar Ffordd Siartist yn barod yn y Gwanwyn 2025.
Bydd y lleoliad yn dal 210 o blant, sy'n cynnwys darparu gofal plant, yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu cyfleoedd addysg Gymraeg yn y fwrdeistref sirol. Mae'r ysgol a'r cyfleuster gofal plant ar y safle yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae 24 o blant wedi cofrestru eisoes ar gyfer yr ysgol ym mis Medi, a disgwylir i hyn gynyddu cyn dechrau'r tymor.
Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi'i ffederu â'r Ysgol Gynradd Gymraeg arall yn y fwrdeistref sirol, Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ac mae'n rhannu'r un Corff Llywodraethu a'r un Pennaeth.
Bydd yr ysgol yn caniatáu i'r Cyngor ddiwallu'r galw cynyddol am leoedd gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Bydd adeilad yr ysgol hefyd yn cynnwys Ardal Gemau Aml-defnyddio (AGAD), ardal chwarae coedwig, gardd ffrwythau sy'n tyfu, ac ardal blodau gwyllt. Bydd yr ysgol hefyd yn ymwybodol o'r hinsawdd gyda phanellau solar a phwyntiau codi tâl cerbydau trydan.
Bydd ardal chwarae ar y safle hefyd yn cael ei ail-adeiladu gyda ddyfeisio â chyfarpar chwarae newydd. Mae'r gwaith ar hyn bron wedi'i gwblhau.
Dwedodd pennaeth Ann Toghill:
“Mae wedi bod yn gyffrous iawn ymweld â'r safle ac mae plant y dosbarth Meithrin a Derbyn wedi cael croeso cynnes gan staff ISG. Roedden nhw wrth eu bodd yn gwisgo eu hetiau cadarn ac yn neidio mewn pyllau mwd yn ogystal â gweld y cloddwyr sy'n adeiladu eu hysgol newydd. Mesurodd staff Ysgol Gymraeg Tredegar uchder y plant a'u marcio ar y dur ac ysgrifennodd y plant eu henwau fel y byddant yn rhan o'r adeilad am byth. Rhan orau'r plant or ymweliad oedd eistedd mewn clodydd, ni allant aros i ymweld eto wrth i'r adeilad ddatblygu.â€
Dwedodd Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol y Cyngor ar gyfer Pobl ac Addysg:
“Rydym am gynnig mwy o ddewis a chyfleoedd i rieni a gofalwyr o ran addysgu eu plant a helpu i dyfu'r Gymraeg yma yn y fwrdeistref sirol. Rwy'n gwybod bod pawb yn gyffrous iawn i symud i'r adeilad newydd y flwyddyn nesaf, a fydd yn amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf i'n disgyblion.â€
"Nid yw'n rhy hwyr i feddwl am addysg Cymraeg, ac mae digon o wybodaeth ar gael ar adran Ysgolion a Dysgu ar wefan y Cyngor."
Os hoffech siarad am eich plentyn yn mynychu Ysgol Gymraeg Tredegar, cysylltwch ag Ann Toghill, Pennaeth Ysgol ar 01495 355830 neu ymgeisiwch drwy y tîm derbyniad ysgol, °¬²æAƬ yma.
Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi dechrau fel "darpariaeth gynnar" gyda dosbarthiadau meithrinfa a derbyn a bydd yn tyfu i ddarpariaeth llawn ar gyfer pob blwyddyn erbyn 2029.
Am fwy o wybodaeth am ddwyieithrwydd y sir neu'r addysg Gymraeg ewch I - /cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/bod-yn-ddwyieithog-1/