°¬²æAƬ

Grant Cymorth Gofalwyr Di-dâl

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd taliad unigol o £500 ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru oedd yn derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.

Caiff y taliad ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol a wynebodd lawer o ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol a gawsant. Targedwyd y taliad at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos.

Nid yw unigolion yn gymwys am y taliad os:

  • os oes gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr, ond nad ydych yn cael y taliad hwnnw oherwydd eich bod yn cael budd-dal arall sydd gyfwerth neu uwch

  • os ydych ond yn derbyn premiwm gofalwr o fewn premiwm gofalwr budd-dal prawf modd

Cafodd rheolau cymhwyster y cynllun eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru ac nid oes unrhyw ddisgresiwn i amrywio telerau’r taliad.

Mae Awdurdodau Lleol yn gweinyddu’r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ysgrifennu at y cwsmeriaid hynny a ddynodwyd drwy ein cofnodion yn eu cynghori i gofrestru. Mae angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar-lein er mwyn derbyn y taliad.

Os na fyddwch wedi derbyn llythyr gennym erbyn 16 Mai 2022 ac yn credu y gallech fod yn gymwys am y cymorth hwn, gallwch gyflwyno ffurflen gais sydd are gael drwy fynd i  a dewis dolen ‘Grant Cymorth Gofalwyr Di-dâl – cais’ yn ein hadran Mwyaf Poblogaidd.

Rhaid derbyn pob ffurflen gofrestru cyn 5pm ar 15 Gorffennaf 2022. Dylech gofrestru gyda’r cyngor sy’n gyfrifol am yr ardal yr ydych yn byw ynddi, ac nid ardal y cyngor lle mae’r person yr ydych yn gofalu yn byw ynddo (os yw’n wahanol).

Gwybodaeth Bellach:

Gofalwyr Cymru: Rhoi cyngor a gwybodaeth i ofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi gofalwyr

  • Llinell gyngor – dydd Llun i ddydd Gwener: 0808 808 7777

Fforwm Cymru Gyfan: Rhoi llais cenedlaethol i rymuso rhieni a gofalwyr pobl gydag anableddau dysgu.

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: Ymroddedig i wella cymorth a gwasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl.