Bydd Gorfodaeth Parcio Sifil yn dechrau eto ym Mlaenau Gwent yr wythnos nesaf ar ôl cael ei ohirio yn ystod pandemig Covid-19. O ddydd Llun (20 Gorffennaf) bydd ein swyddogion gorfodaeth traffig yn canolbwyntio unwaith eto ar ganol trefi ac ardaloedd blaenoriaeth eraill wrth i lacio’r cyfyngiadau symud ac ail-agor busnesau olygu bod mwy o gerbydau ar y ffyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylched:
“Mae gweithredu cyfyngiadau parcio yn ein helpu i lacio tagfeydd ar ein ffyrdd, hyrwyddo diogelwch ffyrdd – yn arbennig yn agos at ysgolion pan maent ar agor – ac yn helpu i gynnal mynediad ar gyfer cerbydau argyfwng. Rydym yn symud yn ofalus allan o’r cyfnod clo a gyda chymeradwyaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru rydym yn dechrau ailgyflwyno rhai gwasanaethau pwysig yn araf a gafodd eu gohirio oherwydd Covid-19 a’r angen i ganolbwyntio ar feysydd mwy hanfodol o waith.
“Hoffem atgoffa modurwyr °¬²æAƬ i barhau i fod yn ystyriol wrth barcio, fel y gallwn gydweithio i gadw ein cymunedau yn ddiogel a hefyd i osgoi unrhyw ddirwyon diangen.â€
I gael mwy o wybodaeth am Orfodaeth Parcio Sifil a Hysbysiadau Taliadau Cost Parcio ewch i - - /en/resident/civil-parking-enforcement/