°¬²æAƬ

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn

Mae Cyngor °¬²æAƬ yn cynnig adnewyddu ei Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer ymarfer cŵn a glanhau baw cŵn ar dir ym mhob rhan o’r fwrdeistref. Croesewir sylwadau ar y cynigion gan bob aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb.

Mae’r Gorchymyn ar gyfer Rheoli Cŵn yn anelu i helpu perchnogion i ymddwyn yn gyfrifol mewn ardaloedd a gaiff eu mwynhau gan eraill. Mae’n amlinellu gofynion a chyfyngiadau ar gyfer perchnogion cŵn ac yn sicrhau y gall holl breswylwyr °¬²æAƬ fwynhau’r mannau agored a gaiff eu rhannu.

Cyflwynwyd y Gorchymyn presennol ym mis Tachwedd 2019 am gyfnod o 3 blynedd a daw i ben yn ddiweddarach eleni. Fe wnaeth greu ardaloedd gwahardd cŵn, ardaloedd cŵn ar dennyn a’i gwneud yn drosedd i fethu symud baw cŵn yn syth ar ôl i’r ci faeddu. Ar hyn o bryd mae perchnogion sy’n cyflawni trosedd yn cael hysbysiad cosb sefydlog o £100 yn lle erlyniad. Bydd methiant i dderbyn neu dalu o fewn amser penodol yn arwain at ymddangosiad llys.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd:
“Mae mwyafrif helaeth perchnogion cŵn yn gyfrifol iawn a bob amser yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau yn ymwneud â’u cŵn. Fodd bynnag, bydd y cynnig a adnewyddwyd yn parhau i helpu i gadw ein mannau agored cymunedol a thir penodol yn rhydd o faw cŵn. Bydd rhoi hysbysiad cosb sefydlog i berchnogion cŵn anghyfrifol sy’n methu glanhau ar ôl eu cŵn yn helpu i gadw ein cymunedau yn lân a diogel.â€

Pa dir a ddaw o fewn Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
• Bydd agwedd baw cŵn y gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus yn parhau i weithredu i’r holl dir sy’n agored i’r aer ac y mae gan yr hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo o fewn ardal °¬²æAƬ.
• Mae’r mannau a gynigir ar gyfer gwahardd cŵn ac ardaloedd cŵn ar dennyn yn cyfeirio at ardaloedd penodol o dir a amlinellir gan y cynlluniau lleoliad. Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd dynodedig presennol i barhau heb eu newid o’r gorchymyn presennol.
• Cynigir un ardal newydd ar gyfer gwahardd cŵn; PSPO-DC-106- Parc Bryn Bach, Tredegar – cynigir ardal gwahardd cŵn ychwanegol yn y parc sy’n gysylltiedig â’r ardal chwarae mini golff.
• Gellir hefyd weld y cynlluniau yn y swyddfa islaw rhwng dydd Llun – dydd Gwener rhwng 9am – 5pm.
• Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.

Beth yw’r gosb am fethu cydymffurfio gyda Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn cynnig parhau i gynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 am droseddau a ddaw o fewn Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Bydd methiant i dalu’r hysbysiad cosb sefydlog yn golygu y bydd yr awdurdod yn cymryd camau cyfreithiol a all arwain at yr uchafswm dirwy o lefel 3 ar y raddfa sylfaenol, sy’n £1,000 ar hyn o bryd.

Y broses ymgynghori
Mae gan y cyngor ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori ar y gorchymyn a gynigir ar ddiogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn cyn iddynt gael eu cyflwyno. Mae cyfnod yr ymgynghoriad rhwng dydd Mawrth 19 Gorffennaf 2022 a dydd Mercher 17 Awst 2022. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn penderfynu p’un ai i wneud newidiadau neu symud ymlaen i gadarnhau’r gorchymyn.

Sut mae rhoi sylwadau ar y cynigion?
Os hoffech roi sylwadau ar y cynigion am orchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn, anfonwch e-bost neu ysgrifennu atom erbyn dydd Mercher 17 Awst 2022 yn defnyddio’r manylion cyswllt islaw os gwelwch yn dda:
E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk
Ysgrifennu at: Adran Iechyd yr

Ysgrifennu at: Adran Iechyd yr Amgylchedd, CBS °¬²æAƬ, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN