Bydd Cyngor °¬²æAƬ yn ymuno â sefydliadau o amgylch Prydain mewn diwrnod o fyfyrdod cenedlaethol yr wythnos nesaf i gofio pawb a gollodd eu bywydau ym mhandemig Covid-19.
Bydd dydd Mawrth nesaf (23 Mawrth) yn nodi pen-blwydd cyntaf cyhoeddi’r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, ac mae’n gyfle i gofio am bawb a gollodd eu bywydau ac i sefyll yn unedig gyda theuluoedd yn eu galar o golli anwyliaid.
Mae Teuluoedd COVID-19 Cymru, grŵp cefnogi Facebook a sefydlwyd gan deuluoedd a gollodd anwyliaid, wedi galw am i adeiladau a lleoedd amlwg ledled Cymru gael eu goleuo mewn melyn ystod noswaith y 23ain. Rydym yn falch iawn i ddweud y bydd y Cyngor ym Mlaenau Gwent yn goleuo safle’r Swyddfeydd Cyffredinol yng Nghlynebwy a Meini Aneurin Bevan yn Nhredegar.
Caiff Sinema Neuadd y Farchnad, Brynmawr a 10 Y Cylch, Tredegar (man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd bellach yn hyb cymunedol) hefyd eu goleuo gan y sefydliadau cymunedol sy’n eu rhedeg.
Mae’r Cyngor hefyd yn annog ei staff i gymryd rhan mewn munud o fyfyrdod ganol-dydd ar y 23ain, fel y’i hyrwyddir gan Marie Curie, yr elusen diwedd bywyd. Mae mwy o wybodaeth am hyn yma -
https://www.mariecurie.org.uk/get-involved/day-of-reflection
Dywedodd y Cyng Nigel Daniels, Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ:
“Bu pandemig COVID-19 yn anodd i ni gyd, ond i’r teuluoedd hynny a gollodd anwyliaid i’r feirws ofnadwy hwn, mae wedi newid eu bywydau. Rydym wedi colli 207 o bobl ym Mlaenau Gwent i’r feirws, ac mae llawer o deuluoedd na chawsant efallai gyfle i ffarwelio yn y ffordd y byddent wedi dymuno. Nid yw ond iawn i ni ymuno gyda miliynau ar draws y wlad wrth oedi i fyfyrio am ein colled; i anrhydeddu atgof y rhai a fu farw ac i ddangos ein cefnogaeth i’r rhai mewn galar. Mae hefyd yn gyfle i ddod ynghyd mewn gobaith am ddyddiau gwell i ddod.
“Mae dau o’r safleoedd hyn o arwyddocâd mawr. Mae Meini Aneurin Bevan yn nodi’r fan lle gwnaeth Nye Bevan AS, pensaer y GIG, lawer o areithiau pwysig. Bu staff y GIG yn arwyr go iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rydym mor ddiolchgar iddynt am eu gwaith caled ac ymroddiad – mae’n addas iawn y bydd y meini hyn yn disgleirio.
“Fel Canolfan Frechu Dorfol, mae’r Swyddfeydd Cyffredinol yn nodweddu ein gobaith i gyd am ddyddiau llawer gwell i ddod.â€
Nodiadau:
• Adeiladwyd y Swyddfeydd Cyffredinol yn 1915-16 ar gyfer Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy gan orffen ei gysylltiadau gyda’r diwydiant pan fu’r gwaith dur gau yn 2002. Mae bellach yn ganolfan ar gyfer Cyngor °¬²æAƬ a hefyd Archifdy Gwent ac Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy. Cawsant eu cynllunio gan Veale a Sant o Gaerdydd, mewn arddull baroque Iseldireg rhydd. Gyda rhestriad gradd II*, mae’n safle swyddfa diwydiannol gwych a phrin. Mae’r cynllun ysblennydd yn adlewyrchu ffyniant y diwydiant dur ar ddechrau’r 20fed ganrif. Caiff ei ddefnyddio fel clinig brechu torfol ar hyn o bryd.
• Mae Meini Coffa Aneurin Bevan yn nodi’r fan lle bu Aneurin Bevan, AS Llafur a phensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn annerch ei etholwyr a’r byd. Daeth niferoedd enfawr o bobl ynghyd i’r lleoliad i glywed un o’r areithwyr gorau erioed. Mae’r maen canolog yn cynrychioli Bevan a’r tri maen llai yn cynrychioli Rhymni, Tredegar a Glynebwy, y tair tref yn ei etholaeth. Caiff y lleoliad ei ddefnyddio’n amlwg ar gyfer cynulliadau cymunedol, iechyd a gwleidyddol pwysig ac arwyddocaol.