Gofalwyr maeth AƬ yn dangos y ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ a sut mae mathau ‘heriol’ o faethu yn addas iddyn nhw.

Nod yr ymgyrch newydd yw codi ymwybyddiaeth am y gwahanol ffyrdd o faethu a sut y gall y rhain a ystyrir yn aml yn fathau “heriol” o faethu fod yn addas i unigolion a theuluoedd.

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru AƬ yn anelu at recriwtio llawer mwy o ofalwyr maeth i ddiwallu anghenion plant lleol mewn gofal.

Wrth baratoi ar gyfer ymgyrch Ionawr 2024 ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag gwneud ymholiadau:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Yr hydref hwn, mae Maethu Cymru AƬ – ​​rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru – yn parhau â’r ymgyrch genedlaethol ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ a lansiwyd ym mis Ionawr. Y tro hwn y nod yw tynnu sylw at yr anghenion maethu penodol y mae'r awdurdod lleol yn cael trafferth mynd i'r afael â nhw.

Drwy ddefnyddio ein hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – rydym am amlygu sgiliau a phriodoleddau sy’n eu helpu i ddarparu cartrefi cariadus i blant neu grwpiau a ystyrir yn fwy ‘heriol’, fel Rhiant a Phlentyn, Grwpiau Brodyr a Chwiorydd, Pobl Ifanc yn eu Harddegau, Plant ag anabledd, a Plant a Phobl Ifanc ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (UASC). Mae’r priodoleddau hyn yn fach ond yn arwyddocaol o ran trawsnewid bywydau plant yn eu gofal. Gall amynedd, sgiliau cyfathrebu da, chwilfrydedd, synnwyr digrifwch neu'r gallu i addasu, ymhlith llawer o nodweddion eraill, eich gwneud yn ofalwr maeth gwych.

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd”.

Dywedodd Mike, sy’n maethu ffoaduriaid ifanc sydd angen diogelwch ac arweiniad, “Rwy’n gofalu am ddau fachgen o Afghanistan, y ddau yn 16 oed. Maen nhw wedi setlo i mewn yn dda iawn. Maen nhw wrth eu bodd yn chwarae chwaraeon. Maen nhw'n bleser pur i fod yn eu cwmni. Rydyn ni wedi rhannu ein diwylliant gyda nhw, ac maen nhw wedi rhannu eu diwylliant gyda ni. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i mi, yn dysgu amdanyn nhw, yn eu haddysgu amdanon ni ac yn dangos bod gennym ni gymaint yn gyffredin nad nhw a ni ydyw mewn gwirionedd, ond yn hytrach, ni.”

Dywedodd Kim a Phil sy’n cynnig maethu Rhiant a Phlentyn, “Mae cynnig lleoliad Rhiant a Phlentyn yn golygu bod angen ymgysylltu, ond roeddem wrth ein bodd; dyma'r math gorau o faethu. Fe wnaethom gefnogi mam gyda'i sgiliau magu plant, yn hytrach na bod yn ofalwyr maeth i blant yn unig. Pethau fel dangos i fam sut i fwydo'r babi a siarad â nhw ar yr un pryd. Roedd llawer o feithrin yn digwydd.”

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 7 Hydref ar draws y cyfryngau digidol a chymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ar draws rhanbarth AƬ a Gwent.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i holi, ewch i:

Maethu Cymru AƬ
Canolfan Adnoddau Teulu
Heol Beaufort
Glynebwy
NP23 5LH

fostering@blaenau-gwent.gov.uk