Mae sefydliad sy’n angerddol am ddarparu addysg Gymraeg i bobl ifanc yng Nghymru newydd lansio fideo newydd i hyrwyddo manteision bod yn ddwyieithog.
Ìý
Mae fideo arbennig ‘Fy Nhaith i’r Ysgol’ yn dangos taith plant lleol ar fws i’r ysgol, gyda’r nod o roi sicrwydd i rieni a fu’n bryderus am anfon eu plant ifanc ar fws i deithio i’r ysgol.
Cafodd y fideo ei lansio yn Ysgol Bro Helyg, ysgol gynradd Gymraeg yn Nantyglo, er mwyn annog teuluoedd sy’n anfon eu plant i Gylch Meithrin Brynithel i barhau eu haddysg Gymraeg drwy eu hanfon i’r ysgol Gymraeg leol ar ôl iddynt adael y Cylch.
Mae Cylch Meithrin Brynithel wedi cynnal cyfres o weithgareddau gyda theuluoedd eleni i ysgogi diddordeb yn y Gymraeg ac addysg Gymraeg yn cynnwys cyrsiau Cymraeg i rieni,Ìý Sioe Martyn Geraint yn Theatr y Metropole yn Abertyleri a thrip am ddim i Å´yl Dewin a Doti.
Dywedodd Nia Parker, Dirprwy Reolwr Rhanbarth De Ddwyrain Cymru y Mudiad Meithrin:
“Bu’r ymgyrch yn llwyddiannus gyda’r nifer sy’n dod i’r ysgol yn cynyddu. Mae’r fideo yn dangos profiad un plentyn dosbarth meithrin o Frynithel sy’n teithio i’r ysgol ar y bws, gan roi tawelwch meddwl i rieni a all fod yn bryderus am hyn.â€
Mae Zoe Powell yn un o’r rhieni sy’n rhannu ei phrofiad o hyn ar y fideo. dywedodd Zoe:
“Roeddwn yn bryderus am iddo fynd ar y bws ar ben ei hun a doedd e erioed wedi bod unman hebddo fi, ond fe wnaeth y cwmni bysiau a’r ysgol roi sicrwydd i fi. Yr un gyrrwr a hebryngydd sydd gan y bws drwy’r amser ac mae ganddo berthynas hyfryd gyda nhw. Mae’r daith ar y bws wedi dod yn rhan ychwanegol o’i fywyd cymdeithasol.â€
Mae’r fideo llawn ar gael
Mae Mudiad Meithrin yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor i hyrwyddo manteision bod yn ddwyieithog a’r cyfleoedd ar gyfer addysg a darpariaeth blynyddoedd cynnar Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Maent yn cydweithio ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy’n nodi sut yr anelant weithio gyda phartneriaid i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y fwrdeistref drwy addysg.
Mae’r Cyngor yn parhau yn hollol gefnogol i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a’r strategaeth genedlaethol ‘Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr’. Prif nod y Cynllun yw gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i greu ‘cymuned °¬²æAƬ sy’n coleddu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant gyda hyder a balchder’. Mae’r cynllun drafft presennol yn disgwyl cymeradwyaeth derfynol gan Lywodraeth Cymru.
Ìý