Mae'r Ganolfan Dechrau'n Deg yn un o sawl canolfan yn y fwrdeistref sirol sydd, o dan y rhaglen Dechrau'n Deg, yn darparu cymorth i deuluoedd mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae'r adborth gan rieni lleol hyd yn hyn yn nodi bod y ganolfan yn rhoi teimlad o adfywio a gobaith i'r gymuned a bydd yn helpu i roi 'dechrau teg' i fywydau eu plant bach.
Mae'r Rhaglen Dechrau'n Deg yn darparu gwasanaethau ymwelwyr iechyd manylach, cefnogaeth rhianta o ansawdd uchel, gwasanaethau datblygu ieithoedd cynnar a gofal plant am ddim i blant dwy flwydd oed. Mae hefyd yn cynnig cefnogaeth bydwreigiaeth, rhaglen meithrin cyn geni, tylino babanod, yoga babanod, therapi lleferydd ac iaith, diddyfnu, cyngor diogelwch yn y cartref a chyrsiau i rieni fel coginio iach.
Mae'r rhaglen hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion lleol i sicrhau bod plant o ofal plant yn cael eu trosglwyddo'n esmwyth i'r meithrin / ysgol.
Cafodd y Dywysoges Frenhinol daith o amgylch y ganolfan, gan gynnwys yr ystafell gofal plant; yr ystafell olau a synhwyraidd a'r ystafell gymunedol.
Dadorchuddiodd ei Huchelder Brenhinol blac i farcio'r ymweliad yn swyddogol a chafodd anrheg gan blant lleol.