°¬²æAƬ

DYMA EIN STRYD FAWR - Arddangos Brynmawr

Bydd cyffro yn strydoedd Brynmawr ddydd Mawrth 2021 wrth i siopwyr a busnesau groesawu’r gwneuthurydd ffilmiau Stephen Davies i arddangos yr hyn sydd gan y dref i’w gynnig. Mae Brynmawr, y dref farchnad uchaf yng Nghymru, yn gweithio tuag at ddod â’r torfeydd yn ôl i’w strydoedd gyda 45 o siopau annibynnol, busnesau, bwytai a thafarndai yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae gan y dref hefyd amgueddfa, llyfrgell ac oriel gelf. Mae’r uchelgais ar gyfer Brynmawr yn cynnwys map tref rhyngweithiol, arwyddion treftadaeth ar briffyrdd i ddenu ymwelwyr, ailaddurno blaen siopau, gosodweithiau, digwyddiadau a llawer mwy.

Bydd y ffilm yn rhoi trosolwg o’r dref yn cynnwys siop ddillad priodasol, siop esgidiau, crydd, siop ddillad menywod, gwasanaethau creadigol ac argraffu, dillad dynion, printio dillad, siop Dim Gwastraff, cigydd, delicatessen, DIY a siop gemydd. Bu Howells Jewellers yn y dref am ddegawdau. Dywedodd Gareth Howells, y perchennog: “Rydym yn fusnes teuluol a fu’n masnachu yma am dros 60 mlynedd. Fy wnaeth fy mam-gu a fy nhad sefydlu Howells ac ymunais innau o’r ysgol ac rwyf wedi rhedeg y siop am 35 mlynedd. Mae fy merch Hârle newydd ymuno â fi ac mae wedi moderneiddio’r busnes gyda’i gwybodaeth o dechnoleg gwybodaeth, gan ddod â’r cwmni i’r 21ain Ganrif.â€

Mae Sally Ann Evans o Meraki yn rhan o grŵp o siopwyr sy’n anelu i greu brand ar gyfer Brynmawr. Dywedodd: “Rwy’n credu ein bod i gyd yn teimlo fod cyfle go iawn i edrych o’r newydd ar yr hyn sydd gan bob tref ym Mlaenau Gwent i’w gynnig a dathlu eu cryfderau unigol a’u nodweddion unigryw. Mae cymuned Brynmawr yn bendant wedi arwain y ffordd yn sut yr aethom ati i gydweithio i wella profiad siopwyr/ymwelwyr, a byddai’n wych adeiladu ar hynny a gobeithio weld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.â€

Gwnaeth Stephen Davies ffilm lwyddiannus am Brynmawr yn 2019 oedd yn cynnwys Shane Williams, arwr rygbi Cymru, yn cynnau goleuadau Nadolig y dref. Roedd hefyd yn rhoi sylw i lawer o siopau annibynnol Brynmawr, ond cynlluniwyd y ffilm yma i roi gwahanol safbwynt o’r dref gyda sylwadaeth ddiddorol a chodi cwr y llen ar dreftadaeth y dref a thirnodau lleol.

Dywedodd Karen Williams, Rheolwr Datblygu Canol y Dref: “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddangos popeth sydd gan Ganol Tref Brynmawr i’w gynnig. Bydd y ffilm yn rhoi sylw i’r busnesau amrywiol, yr ymdeimlad cryf o gymuned a’r ymdrechion gwych a wnaeth busnesau lleol i groesawu siopwyr yn ôl i’r dref.â€

Mae croeso i bawb i Brynmawr ar ddiwrnod y ffilmio a bydd marchnad tu allan i Sinema Neuadd y Farchnad – yr hynaf yng Nghymru – gyda chrefftwyr, artisaniaid, stondinau bwyd a mwy. Bwriedir cynnal y farchnad yn rheolaidd ym Mrynmawr gyda digwyddiadau eraill cyffrous i ddilyn yn y dyfodol.

GWYBODAETH CYSWLLT

Karen Williams: Rheolwr Datblygu Canol y Dref – 07790 545307
Stephen Davies: Picture Wales – 07776 433936 www.picturewales.com – info@picturewales.com
Claire Welch: Pebbles and Welch Designs – 07989 433704

Mae Stephen Davies yn rhedeg PictureWales.com, cwmni ffotograffiaeth proffesiynol a gwneud ffilmiau a sefydlwyd ers 2008 ac mae’n creu cynnwys gweledol unigryw ar gyfer cwmnïau ledled Cymru. Mae Stephen yn byw yn lleol yn Nantyglo ac yn angerddol am ei ardal leol ac wrth ei fodd yn tynnu sylw at ei dref gartref a’i dangos i eraill.