Rydym yn mynd n֧ôl mas i'r gymuned gyda chyfres o sioeau teithiol dilynol ac unwaith eto mae gennym ddiddordeb mewn cael barn pobl leol ar ba mor lân yw eu hardal leol.
Yr amserlen a gadarnhawyd o ddigwyddiadau sioe deithiol yw:
- Dydd Mercher 23 Hydref Asda Brynmawr 4pm-6pm
- Dydd Iau 24 Hydref Tesco Abertyleri 4pm-6pm
- Dydd Mawrth 29 Hydref Tesco Glynebwy 1pm-3pm
- Dydd Iau 31 Hydref Morrisons Glynebwy 4pm – 6pm
- Dydd Gwener 1 Tachwedd Marchnad Glynebwy 10am – 1pm
- Dydd Gwener 1 Tachwedd Canol Tref Tredegar 1pm-3pm
- Dydd Llun 4 Tachwedd Canol Tref Blaenau 10am – 1pm
- Dydd Mawrth 5 Tachwedd Lidl Tredegar 4pm-6pm
- Dydd Iau 7 Tachwedd Marchnad Abertyleri 10am – 1pm
Bydd arolwg ar gyfer adborth gan breswylwyr ar gael ar ein gwefan www.blaenau-gwent.gov.uk neu drwy glicio ar y ddolen ddilynol https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=157132025257 ar gyfer y bobl hynny na all fynychu'r digwyddiadau.
Dywedodd y Cyng Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
‘Rydym yn gwybod o'r adborth a gawn yn rheolaidd fod preswylwyr eisiau cymunedau glanach ac mae amgylchedd lleol y gallant ymfalchïo ynddo yn bwysig iddynt. Gyda hyn dan sylw, rydym bob amser yn ymroddedig i gwella glanweithdra'r ardal leol. Trefnwyd nifer o ddyddiadau sioeau teithiol a rydym yn annog preswylwyr i ddod i'n gweld a siarad gyda ni am yr ardal. Edrychaf ymlaen at gwrdd â phreswylwyr yn y digwyddiadau a chlywed yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud yn yr arolwg".