Mae Cyngor °¬²æAƬ yn ymgynghori ar gynlluniau i gynyddu capasiti ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd mewn camau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae dogfen ymgynghori ffurfiol yn cynnig gwella darpariaeth a meithrin capasiti ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn awr ar gael i’w weld ar y wefan.
Y bwriad yw ailwampio amgylcheddau dysgu presennol i greu lleoedd ystafell ddosbarth a chyfleusterau cysylltiedig i ddarparu ar gyfer a sicrhau adnoddau priodol ar gyfer y darpariaethau a gynigir ar gyfer ADY ac ASD. Yn ychwanegol, ac wrth ochr hyn, bydd y Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygiad parhaus.
Mae nifer o wahanol ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a rhoi eich sylwadau;
- Drwy arolwg ar-lein –
- Drwy ffurflen y gellir ei hanfon at 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk
- Drwy’r post at Joanne Watts, Rheolwr Gwasanaeth, Trawsnewid Addysg a Newid Busnes, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8 Llys Einion, Abertyleri, NP13 1DB.
Mae hefyd gyfres o sesiynau galw heibio a drefnwyd i unrhyw un sydd â diddordeb i ganfod mwy, sef:
- Dydd Mawrth 2 Mai, 3pm i 6.30pm – Canolfan Dysgu Gweithredol Glynebwy, Stryd James
- Dydd Mercher 3 Mai, 3pm i 6.30pm – Tŷ Bedwellte, Stryd Morgan
- Dydd Mawrth 9 Mai, 3pm i 6.30pm – Canolfan Ddiwylliannol a Chynadleddau y Metropole Abertyleri
- Dydd Mercher 10 Mai, 3pm i 6.30pm – Clwb Rygbi Brynmawr, Heol Gatholig
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol Pobl ac Addysg y Cyngor:
Ìý“Mae ein holl blant yn haeddu’r cyfle i ddatblygu eu potensial a llwyddo o fewn ein hysgolion a’n cymunedau ein hunain. Rydym yn ymroddedig i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle hwnnw, gyda darpariaeth addysg sy’n diwallu eu hanghenion. Mae canolfannau adnoddau yn darparu addysg ansawdd uchel yn lleol ar gyfer plant gydag anghenion dysgu ychwanegol o fewn ysgolion prif ffrwd.
"Dangosodd ein hadolygiad diweddar bod angen cynyddol am leoedd ADY o fewn y fwrdeistref a chredwn fod y cynnig hwn yn cynnig datrysiad go iawn, gan roi’r dulliau i ddysgwyr maent eu hangen i dderbyn eu haddysg wrth ochr eu grŵp cyfoedion eu hunain a rhoi’r dulliau mae ysgolion eu hangen i gefnogi ystod eang o ddysgwyr mewn ysgolion lleol.â€
Daw’r ymgynghoriad i ben am 5pm ddydd Mawrth 6 Mehefin 2023.