°¬˛ćAƬ

Dweud eich barn ar gynlluniau teithio llesol °¬˛ćAƬ


Fel rhan o ymgynghoriad ffurfiol mae Cyngor °¬˛ćAƬ yn dymuno gwybod lle credwch y gellid gwneud gwelliannau i rwydwaith presennol Teithio Llesol a lle gallai fod yn bosibl ychwanegu llwybrau newydd.

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol fapio eu llwybrau presennol a dangos lle gellid gwneud gwelliannau ac ychwanegu llwybrau newydd fel rhan o'i Fap Rhwydwaith Integredig.

Bydd ymgynghoriad °¬˛ćAƬ yn rhedeg am 12 wythnos yn dechrau ar 17 Ebrill gan roi cyfle i bobl leol roi sylwadau ar y Map Rhwydwaith Integredig a gwneud awgrymiadau a allai helpu llunio darpariaeth teithio llesol yr ardal yn y dyfodol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar gwefan y Cyngor  www.blaenau-gwent.gov.uk 
https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152397470565

Mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Gallwch edrych ar y llwybrau ar-lein a rhoi adborth yn defnyddio'r holiadur ar-lein ar feysydd ar gyfer eu gwella neu drwy gynnig llwybrau newydd neu wella llwybrau presennol.

Ar ddiwedd y cyfnod ymgysylltu, bydd y Cyngor yn dadansoddi'r canlyniadau a sicrhau y cânt eu hystyried wrth ddrafftio'r cynllun terfynol a gyflwynir i Lywodraeth Cymru yn Awst 2018.

Os caiff ei dderbyn, gobeithir y bydd °¬˛ćAƬ yn sicrhau arian o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol i ddatblygu a dylunio elfennau o'r Map Rhwydwaith Integredig ar gyfer ei weithredu yn y dyfodol.