°¬²æAƬ

Diwrnod Shwmae 15 fed O Hydref

Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ nodi Diwrnod Shwmae, achlysur lle mae pobl ledled Cymru yn cyfarch eu gilydd gyda 'shwmae!' Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ein trigolion yn cymryd rhan yn y dathliad llawen hwn o’n hiaith annwyl. Ar Hydref y 15fed, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud 'shwmae' wrth bawb rydych chi'n cwrdd!

Mae’r Cyngor wrth ei fodd yn gweld nifer cynyddol o staff yn manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg, diolch i adnoddau fel Dysgu Cymraeg a Duolingo.

Un o oleuadau disglair brwdfrydedd hon yw Luisa Munro-Morris, sydd wedi cymryd camau breision yn ei thaith Duolingo. Fel y Cyfarwyddwr Addysg, mae Luisa wedi ymrwymo i arwain trwy esiampl ac wedi plethu’r Gymraeg yn ddi-dor i’w bywyd bob dydd. Mae hi’n ddatgan yn angerddol, "fel Cyfarwyddwr Addysg, dylwn i fod yn fodel rôl ar gyfer dysgu Cymraeg." Mae ei hymroddiad a’i llawenydd wrth ddysgu Cymraeg yn y gwaith ac yn ei bywyd personol, yn ysbrydoliaeth bwerus i’w holl gydweithwyr.

Mae Andrew Parker, ein Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau, ar ddiwrnod 134 o'i rediad Duolingo. Ar ôl ystyried dysgu Cymraeg am gyfnod, mae Duolingo yn adnodd ardderchog. Trwy ymarfer yn ddyddiol a rhannu ei gynnydd gyda’r tîm, mae o wedi ysbrydoli eraill i ddechrau dysgu hefyd! Dywedodd “Rydw i wastad wedi bod eisiau gwella fy ngallu yn y Gymraeg, y tu hwnt i’r cyfarchion sylfaenol, ond wastad wedi cael trafferth gwneud amser ar gyfer y cyrsiau gyda fy ngwaith prysur a fy mywyd personol.  Mae Duolingo, wedi fy ngalluogi i wneud cynnydd da mewn amser byr, trwy neilltuo ychydig o amser o ddydd i ddydd.â€

Mynegodd un o’n haelodau tîm Canolfan Gyswllt ymroddedig, a gychwynnodd ar daith ddysgu’r Gymraeg ochr yn ochr â sawl cydweithiwr, ei brwdfrydedd: “Rwyf wrth fy modd i ddysgu Cymraeg nid yn unig i gynorthwyo ein cwsmeriaid sydd well ganddynt siarad Cymraeg, ond hefyd oherwydd, fel rhywun balch. Dwi’n dinesydd Cymreig, ac dwi’n hynod o falch i ddysgu iaith, mae fy nhiwtor Barry o Ddysgu Cymraeg yn wych!"

Beth sydd yn digwydd ym Mlaenau Gwent arno Diwrnod Shwmae?

Galwch draw a dweud ‘Shwmae’ i Crystal Cafe a Kenny's Vinyl Lounge yn Abertyleri a fydd yn dathlu popeth Cymreig, yn adrodd straeon traddodiadol Cymreig, yn chwarae cerddoriaeth Gymreig hyfryd ac yn gweini dewis o Bice ar y Maen fegan!

Byddwch yn ddiwylliannol yn sinema hynaf Cymru, bydd Sinema Neuadd y Marchnad ym Mrynmawr yn dangos addasiad Kevin Allen o Under Milk Wood gan Dylan Thomas, ac yna sesiwn holi-ac-ateb gyda Kevin ei hun!

Bydd y Llyfrgelloedd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar y 15fed Hydref:

  • Bydd pob llyfrgell (eithrio Blaina) yn cynnal gweithgaredd crefftau draig plât papur - bydd hyn ar gael i'w wneud rhwng 3-4:30yp, ac yn addas ar gyfer plant 3-11 oed.
  • Bydd Cwm a Brynmawr yn cael Amser Te Cymreig. Bydd te a choffi ar gael rhwng 10-11yb gyda phice ar y maen.
  • Rhwng 3:30-4:30yp bydd llyfrgell Cwm yn cynnal amser stori gyda Bethan a'i draig pyped Dewi sy'n addas ar gyfer plant 3-7 oed!
  • Bydd gan Abertyleri a Thredegar weithdy blasu’r Gymraeg – 10-11yb
  • Sesiwn i ddechreuwyr pur ddysgu ymadroddion/geiriau Cymraeg sylfaenol a sut i gyflwyno eich hun.

Bydd llyfrgell Glyn Ebwy hefyd yn cynnal sesiwn i gwrdd ar awdur ‘Boneddiges Werdd Castell Caerffili’ ar ddydd Sadwrn y 19eg o Hydref!

Sut byddwch chi'n dathlu? Rhowch wybod i ni drwy anfon lluniau, fideos neu negeseuon i cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk , neu defnyddiwch #shwmae24 #shwmaesumae24 ar y cyfryngau cymdeithasol