Cynhelir Diwrnod Cofioâr Holocost 2022 ar 27 Ionawr a thema eleni yw âUn Diwrnodâ.
Mae Diwrnod Cofioâr Holocost yn Un Diwrnod a neilltuwn i ddod ynghyd i gofio, dysgu am yr Holocost, erledigaeth gan y Natsiaid aâr hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, yn y gobaith y gall fod Un Diwrnod yn y dyfodol heb unrhyw hil-laddiad. Dysgwn fwy am y gorffennol, cydymdeimlo gydag eraill heddiw, a gweithredu dros ddyfodol gwell.
Mae Diwrnod Cofioâr Holocost yn adeg pan anelwn ddysgu gwersiâr gorffennol a chydnabod nad yw hil-laddiad yn digwydd ar ben ei hun â maeân broses gyson a all ddechrau os na chaiff gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb eu hatal.
Fe wnaeth yr Holocost fygwth ffabrig gwareiddiad ac maeân rhaid i ni ddal i wrthwynebu hil-laddiad bob dydd. Mae ein byd yn aml yn teimloân fregus ac ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Hyd yn oed yn y Deyrnas Unedig, maeân rhaid i bawb ohonom herio rhagfarn a iaith casineb.
I ddangos ymrwymiad y Cyngor i goffau Diwrnod Cofioâr Holocost, caiff Cloc Tredegar ei oleuo i ddangos gweithred o undod.
Bydd nifer o lyfrgelloedd tebyg i Lynebwy, Tredegar, Brynmawr, Blaenau, Cwm ac Abertyleri hefyd yn dangos gwaith disgyblion o ysgolion cynradd ar draws y fwrdeistref.
Derbyniodd ysgolion adnoddau gwybodaeth ar Y Diwrnod y derbyniodd Anne Frank ei Dyddiadur ar gyfer ei phen-blwydd yn 13 oed, 12 Mehefin 1942. Mae Anne yn disgrifioâr dyddiadur fel yr anrheg gorau a gafodd erioed ac feâi defnyddio mewn modd i fynegi ei syniadau a theimladau mewn cyfnodau o ansicrwydd, dathlu ac erchyllter.
Cafodd disgyblion wedyn eu hannog i ysgrifennuân Ă´l at Anne a mynegi ei syniadau aâi theimladau.
Mae goroeswyr yr Holocost a hil-laddiad yn aml yn siarad am Un Diwrnod pan newidiodd popeth, weithiau er gwaeth ac weithiau er gwell.
Mae Iby Knill yn teimlo y newidiodd popeth o Un Diwrnod iâr nesaf, ac eto doedd dim wedi newid:
âUn diwrnod, fe wnaeth Gretl, fy nghyfaill ysgol, fy nghyfarch gan fy nghofleidio. Y diwrnod nesaf rhedodd ar draws y ffordd a throi ei phen i ffordd er mwyn peidio fy nghydnabod.â
I Faiza, roedd diwrnod diffiniol. Yn dilyn rhyfel cartref yn 2003 a adawodd filiynau o bobl wedi eu dadleoli, mae llywodraeth Sudan wedi cefnogi milwyr Arabaidd sydd wedi dinistrio cannoedd o bentrefi a llofruddio miloedd o bobl.
Cafodd Faiza ei thargedu gan Lywodraeth Sudan am gefnogi dioddefwyr yr hil-laddiad, ac felly dywedodd:
âUn diwrnod penderfynais adael fy ngwlad. Roedd yn benderfyniad anodd, ond nid oedd ffordd arall. Gadewais fy nghartref, fy nghyfeillion, fy mhobl; gadewais bopeth oedd gennyf. Mae llyfr ar fwrdd yn agos at fy ngwely ar agor ar dudalen 49 yn aros amdanaf.â
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Moore, Hyrwyddwr Cydraddoldeb Cyngor °Ź˛ćAĆŹ:
âMae Diwrnod Cofioâr Holocost yn ddiwrnod pwysig pan mae pawb yn ystyried yr Holocost aâr gweithredoedd arswydus o hil-laddiad a fu ym mhob rhan oâr byd. Mae thema eleni âUn Diwrnodâ yn un diwrnod i ni gyd oedi a chofio rhan o hanes na ddylem byth ei anghofio a gwneud yn glir yn benderfyniad na ddylent byth gael eu hailadroddâ.
Mae gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofioâr Holocost yn adnodd gwych ar gyfer athrawon a rhieni sydd eisiau addysgu eu disgyblion/plant i ddysgu gwersi oâr gorffennol mewn ffyrdd creadigol, syân bwrw golwg yn Ă´l ac syân ysbrydoli.
I gymryd rhan, ymwelwch â gwefan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofioâr Holocost:Â