Bydd seremonïau priodas a sifil yn Swyddfa Gofrestru °¬²æAƬ yn ailddechrau o 1 Gorffennaf 2020.
Rydym yn dilyn cyngor a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar ymbellhau cymdeithasol ac ymddygiad y cyhoedd. Mae hyn yn golygu y cafodd cynnwys a ffurf seremonïau priodas a phartneriaethau sifil ei adolygu ac rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau ar nifer y bobl a ganiateir yn ein hystafelloedd seremoni ar unrhyw un amser.
Dilynir canllawiau ymbellhau cymdeithasol i sicrhau y caiff swyddogion ac ymwelwyr eu cadw’n ddiogel ac i helpu atal lledaeniad coronafeirws.
Y nifer uchaf o bobl a ganiateir ym mhob ystafell yw:-
• Swyddfa Gofrestru – 2 Gwestai yn unig (ynghyd â’r cwpl sy’n priodi)
• Ystafell Homfray – 6 Gwestai yn unig (ynghyd â’r cwpl sy’n priodi)
Byddwn yn cysylltu ar sail mis wrth fis gyda chyplau sydd wedi archebu seremoni. Ein blaenoriaeth yw cynnal seremonïau a drefnwyd ar gyfer y Swyddfa Gofrestru ym mis Gorffennaf a mis Awst cyn derbyn archebion newydd o fis Medi ymlaen. Bydd pob archeb yn dibynnu ar argaeledd.
Nes byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru, ni fedrwn ar hyn o bryd gynnal seremonïau mewn safleoedd cymeradwy (h.y. Yr Ystafell Gynnull yn Nhŷ Bedwellte, Sefydliad Glowyr Llanhiledd yn Abertyleri a Gwesty’r Tredegar Arms, Tredegar). Deallwn fod yr ansicrwydd hwn yn gwneud cynllunio’n anodd ac ymddiheurwn yn ddiffuant i bob cwpl y mae’r sefyllfa hon yn effeithio arnynt.
Islaw mae rhai cwestiynau ac atebion defnyddiol ar gyfer cyplau:
C1 O ba ddyddiad y gall priodasau gael eu gweinyddu neu y gellir ffurfio partneriaethau sifil?
Yng Nghymru gellir gweinyddu priodasau a ffurfio partneriaethau sifiil o 22 Gorffennaf. Gall hyn ddigwydd yn Lloegr o 4 Gorffennaf.
C2 Lle mae person ar y rhestr warchod, a all priodas gael ei gweinyddu neu bartneriaeth sifil gael ei ffurfio o bell drwy dechnoleg cynhadledd fideo?
Na, nid oes unrhyw ddarpariaeth o fewn deddfwriaeth gyfredol ar gyfer cynnal priodasau neu bartneriaethau sifil rhithiol.
C3 A all cyplau sydd eisoes wedi rhoi hysbysiad symud ymlaen gyda’u priodas / partneriaeth sifil os dymunant wneud hynny?
Gallant, cyhyd â bod yr awdurdodau yn dal yn ddilys a bod y safle’n parhau’r un safle ac ar agor.
C4 Beth sy’n digwydd os rhoddwyd hysbysiad blaenorol ar gyfer safle sy’n awr ar gau?
Mae angen hysbysiad newydd os yw’r safle yn newid ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil.
C5 Mae gerddi’r swyddfa gofrestru yn hyfryd – gan fod llai risg yn yr awyr agored, a fedrir cynnal y seremoni yno yn lle hynny?
Na. Mae’n rhaid i briodas neu bartneriaeth sifil ddigwydd o fewn y safle a fanylir ar yr hysbysiad a’r caniatâd, ac fel y nodir yng nghymeradwyaeth y safle. Ni chaiff y gofod awyr agored ei gynnwys fel rhan o’r safle.
C6 Pam na all tystion ddefnyddio technoleg fideo i fod yn dystion i’r seremoni?
Mae gofyniad yn parhau i fod o fewn y ddeddfwriaeth i 2 dyst fod yn bresennol i fod yn dyst i briodas a phartneriaeth sifil ac wedyn lofnodi’r gofrestr.