Cymeradwyodd Pwyllgor Gweithredol y Cyngor y defnydd o ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig am fân droseddau.
Mae tipio anghyfreithlon yn dramgwydd o dan Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ac mae'n ymwneud â dodi gwastraff rheoledig neu wastraff echdynnol yn neu ar unrhyw dir heblaw yn unol â chaniatâd neu eithriad amgylcheddol.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor un o'r cyfraddau dadlenu gorau ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon yng Nghymru, ac mae wedi cyflawni 77 o euogfarnau llys llwyddiannus dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, gall yr erlyniadau hyn fod yn hir a chymryd llawer o amser ac mae'r pwerau newydd yn rhoi'r rhyddid i Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd roi Hysbysiadau Cosb Benodedig, yn enwedig ar gyfer troseddwyr tro cyntaf lefel isel.
Os bydd erlyniad yn llwyddiannus yn y llys, gall y Cyngor gael dyfarniad o gostau erlyn, a all gymryd ychydig o amser i'w hadennill gan y diffynnydd. Fodd bynnag, cymerir troseddwyr cyson i'r llys lle gellir gosod dedfrydau llymach.
Meddai'r Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
"Mae tipio anghyfreithlon yn heintio ein cymunedau, ac yn costio miliynau ledled Cymru i'w lanhau. Yn 2016/17, cawsom 845 o adroddiadau am dipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent, a bu'n rhaid ymchwilio i bob un a'u clirio gan ein timau. Gall achosion llys fod yn hir gan gymryd llawer o amser ac adnoddau felly rwy'n falch bod cydweithwyr ar y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo'r pwerau newydd hyn i alluogi ymdrin â throseddwyr yn gyflym ac yn effeithiol.
"Mae ein trigolion yn dweud wrthym yn barhaus fod amgylchedd byw glân yn bwysig iddyn nhw ac mae'n un o flaenoriaethau'r Cyngor hwn wrth symud ymlaen, felly rwy'n croesawu'r ddeddfwriaeth newydd hon a hoffwn atgoffa unrhyw un os oes ganddynt unrhyw wybodaeth am dipio anghyfreithlon i gysylltu â ni."
Gostyngir y ddirwy o £400 i £350 ar gyfer talu'n gynnar (o fewn 10 diwrnod), fodd bynnag os na chaiff ei dalu ar ôl 14 diwrnod dechreuir achos llys.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai'r meini prawf canlynol yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer defnyddio Hysbysiadau Cosb Benodedig:
Troseddwyr cyntaf anghyson yn unig
Gwastraff nad yw'n beryglus yn unig
Hyd at lwyth cist car
Hyd at 8 bag du
Un neu ddau eitem swmpus (e.e. dodrefn, nwyddau gwyn)