°¬˛ćAƬ

Dim Parcio

Bydd Cyngor °¬˛ćAƬ yn dod yn gyfrifol yn y dyfodol agos am orfodaeth troseddau parcio sifil yn y fwrdeistref sirol.

Ddydd Llun 1 Gorffennaf 2019 bydd y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb am Orfodaeth Parcio Sifil oddi wrth Heddlu Gwent, a bydd yn canolbwyntio i ddechrau ar ganol trefi ac ysgolion.

Y dirwyon a gaiff eu codi am droseddau fydd ÂŁ70, a ostyngir i ÂŁ35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod, a ÂŁ50, a ostyngir i ÂŁ25, ar gyfer tramgwyddau llai.

Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ar y Cyngor:

"Yn dilyn penderfyniad Heddlu Gwent i beidio gorfodi cyfyngiadau parcio mwyach, gwnaeth y Cyngor gais i gymryd y pwerau drosodd. Mae cyfyngiadau parcio yn bodoli am nifer o resymau pwysig, yn cynnwys llacio tagfeydd ar ein ffyrdd, hyrwyddo diogelwch ffyrdd o amgylch ysgolion a rhoi mynediad i gerbydau argyfwng.

I ddechrau byddwn yn defnyddio dau swyddog gorfodaeth parcio yn yr ardaloedd hynny y dynodwyd eu bod yn achosi problemau, gyda golwg ar gynyddu hyn os oes angen. Nid cynllun i wneud arian yw hyn gan fod deddfwriaeth yn dweud fod yn rhaid i unrhyw arian o ddirwyon gael ei ailfuddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd a chludiant.

Hoffwn atgoffa modurwyr ym Mlaenau Gwent i ystyried lle maent yn parcio, fel y gallwn gydweithio i gadw ein cymunedau'n ddiogel a hefyd osgoi unrhyw ddirwyon diangen."

Er mwyn dechrau Gorfodaeth Parcio Sifil, mae'n rhaid i'r Cyngor gytuno ar Orchymyn Traffig cyfunol ar gyfer °¬˛ćAƬ. Bydd dogfen yn cynnwys manylion yr holl gyfyngiadau parcio gorchymyn traffig cyfredol ym Mlaenau Gwent ar gael i'w weld a rhoi sylwadau arni yn y Ganolfan Ddinesig yng Nglynebwy. Gellir gweld y ddogfen rhwng dydd Iau 9 Mai a 30 Mai, 9am i 4.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa ar Ă´l cyrraedd os gwelwch yn dda.

Nodyn:

Gall y Swyddogion Gorfodaeth Sifil weithredu pob cyfyngiad cysylltiedig â pharcio ar y briffordd gyhoeddus drwy gyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb ar gyfer unrhyw gerbyd y ceir ei fod wedi parcio'n anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r cyfyngiadau dilynol:

      â—Ź    Gwahardd Stopio (h.y. safleoedd bysus, marciau cadw'n glir ysgolion, llinellau igam ogam  ger mannau croesi i gerddwyr a chyfyngiadau clirffyrdd gwledig
• Dim Aros a Dim Llwytho
• Baeau Parcio yn benodol ar gyfer aros cyfyngedig, llwytho, tacsis, pobl anabl, meddygon, yr heddlu, cyfarwyddwyr angladdau a deiliaid trwydded.

°¬˛ćAƬ Gorfodi Parcio Sifil (GPS) - FAQs  

/cy/preswylwyr/gorfodi-parcio-sifil/