Yn dychwelyd oherwydd y galw, mae'r tîm yn Effaith BG yn falch iawn i gyhoeddi y bydd cyfarfod nesaf rhwydweithio Effaith, yn dechrau am 5:30pm - 7:30pm ddydd Mawrth 4 Hydref yn Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy (NP23 6AA)
Pwnc poeth yr Hydref fydd "Ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd a hefyd fusnesau presennol" felly os ydych erioed wedi tybio sut mae cyllid tyrfa yn gweithio neu ba grantiau, benthyciadau ac opsiynau arall sydd yno i helpu ariannu eich busnes, yna nid yw'n rhaid edrych ymhellach a dewch i gwrdd â thîm Effaith yn nigwyddiad rhwydwaith Effaith.
Bydd uchafbwyntiau'r noswaith yn cynnwys
- Siaradwr gwadd: Innovation Makers Cyf o Lanebwy - ‘Sut i godi cyllid drwy gyllid tyrfa’
- “Her Hyrwyddo” … cyfle i hybu eich busnes
- Parth Cyllid Naidlen
- Lluniaeth a Rhwydweithio
Bydd gwasanaethau cymorth busnes ychwanegol hefyd ar gael i unrhyw un sy'n edrych am gyngor neu gefnogaeth busnes.
Mae nifer dda iawn yn mynychu digwyddiadau Rhwydwaith Effaith a bu bron 100 yn bresennol yn y noswaith ddiwethaf. Mae'n ffordd berffaith i ymgysylltu'n anffurfiol gyda phobl fusnes leol a sefydliadau cymorth busnes AM DDIM.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â
Moe@bgeffect.com neu moe.forouzan@blaenau-gwent.gov.uk
www.bgeffect.com