°¬²æAƬ

Datgelu Enillwyr Gwobrau Busnes °¬²æAƬ

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ ei Wobrau Busnes cyntaf neithiwr. Yn y digwyddiad llwyddiannus cyhoeddwyd enwau enillwyr wyth categori busnes yn cynnwys Busnes y Flwyddyn.

Busnes Newydd y Flwyddyn - noddwyd gan UK Steel Enterprise: The Warehouse Hair & Beauty Supplies

Busnes Bach neu Ganolig y Flwyddyn - noddwyd gan Business in Focus: Atal UK Cyf.

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn - noddwyd gan United Welsh: Gofal a Thrwsio °¬²æAƬ a Chaerffili

Rhagoriaeth mewn Arloesedd a Thechnoleg - noddwyd gan Thales: Canolfan Addysg Eden

Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn - noddwyd gan Sefydliad Gweithgynhyrchwyr EFF: Performance Masterbatches Cyf.

Rhagoriaeth mewn Masnach Rhyngwladol - noddwyd gan Conti Teves UK Cyf: Performance Masterbatches Cyf.

Busnes Manwerthu neu Wasanaeth y Flwyddyn - noddwyd gan Fforwm Busnes Glynebwy a Cartrefi Melin: The Warehouse Hair & Beauty Supplies

Busnes y Flwyddyn - noddwyd gan Lywodraeth Cymru: Performance Masterbatches Cyf.

Dathlodd y seremoni wobrau lwyddiannau unigolion entrepreneuraidd a busnesau bach a chanolig seiliedig ym Mlaenau Gwent. Dathlodd rai o'r cwmnïau gorau ym Mlaenau Gwent. Aeth cwmnïau benben mewn wyth categori gyda Performance Masterbatches Cyf. yn ennill gwobr derfynol y noswaith - teitl pwysig  Busnes y Flwyddyn.

 
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ:

“Dyma'r Gwobrau Busnes cyntaf i ni eu trefnu ac rwy'n falch i ddweud ei bod yn noswaith lwyddiannus yn dathlu a rhoi sylw i lwyddiant busnesau ym Mlaenau Gwent. Cafodd cwmnïau o bob maint a sector wobrau am eu llwyddiannau dros y 12 mis diwethaf. Bu dros gant o bobl o gymuned fusnes °¬²æAƬ yn bresennol yn y dathliad a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr. Hoffwn ddiolch i'n noddwyr a phob busnes a gyflwynodd gynigion ac i'r rhai ar y rhestr fer. Edrychwn ymlaen at gynnal hyn eto y flwyddyn nesaf a pharhau i gydnabod llwyddiannau busnesau ym Mlaenau Gwent.â€

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Rwy’n falch i fod yn rhan o Wobrau Busnes cyntaf °¬²æAƬ a hoffwn longyfarch busnesau mawr a bach y cafodd eu cyflawniaadau a’u llwyddiannau eu cydnabod.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n hollol ymroddedig i gefnogi twf economaidd ym Mlaenau Gwent ac roeddwn yn falch i gyhoeddi yr wythnos hon y byddwn yn buddsoddi £25m ym mhrosiect Cymoedd Technoleg dros y tair blynedd nesaf er mwyn hybu cynnydd y rhaglen bwysig yma.

“Yn unol â’n Cynllun Gweithredu Economaidd, bydd egwyddorion twf, gwaith teg a datgarboneiddio yn greiddiol i raglen Cymoedd Technoleg ynghyd â cheisio lledaenu ffrwythau twf economaidd i ardaloedd na wnaeth cystal mewn blynyddoedd diweddar.â€

Dywedodd Mark Langshaw MBE, Cadeirydd, Bwrdd Ymgynghori Parth Menter Glynebwy:

“Ar ran Bwrdd Ymgynghori Parth Menter Glynebwy, hoffem gynnig ein llongyfarchiadau i bawb a ymgeisiodd, y rhai ar y rhestr fer ac enillwyr Gwobrau Busnes cyntaf °¬²æAƬ. Roedd yn noswaith ddifyr iawn, yn dathlu llwyddiant busnesau ym Mlaenau Gwent, ac roedd yn wych gweld cefnogaeth mor dda. Hoffem fynegi ein diolch i Lywodraeth Cymru a'r holl noddwyr eraill am gefnogi'r gwobrau ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ am ei gwaith rhagorol yn trefnu'r gwobrau cyntaf o'r fath ym Mlaenau Gwent. Gobeithiwn y daw hyn yn ddathliad blynyddol o lwyddiannau busnesau ym Mlaenau Gwent.