Nod yr ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig yw dathlu ymroddiad gofalyddion maeth a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar gymdeithas.
Eleni rydym wedi ymuno â chynghorau ar draws Gwent i greu llawer o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cydnabod gwaith hanfodol ein gofalyddion maeth sy'n arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod hynod o heriol hwn.
Yr her a nodwyd gan elusen y Rhwydwaith Maethu ar ddechrau 2020 oedd recriwtio 550 o deuluoedd maeth eraill yn ystod y flwyddyn. Dyma'r nod o hyd i dimau maethu awdurdodau lleol sydd wedi amrywiaethu eu harferion presennol i weithio tuag at y targed.
Mae Tîm Maethu Caerffili wedi sefydlu nifer o sesiynau cyswllt dros y we gyda gofalyddion i wirio eu lles ac maent hefyd wedi rhoi cymorth i ofalyddion i fabwysiadu dull tebyg gan ganiatáu i blant gadw cysylltiad â'u teuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol – Gwasanaethau Cymdeithasol “Mae ein Gofalyddion Maeth wedi perfformio'n eithriadol yn ystod pandemig y Coronafeirws. Nid yw hon yn swydd hawdd ond maen nhw unwaith eto wedi ymateb i'r her ac wedi parhau i ddarparu cymorth hanfodol i rai o blant mwyaf agored i niwed yn y sir. Rydym mor falch o bob un ohonynt a'r Tîm Maethu sydd wedi amrywiaethu er mwyn parhau i ddarparu eu gwasanaeth.
Dywedodd Alison Ward, Gofalydd Maeth Caerffili, “Rwy'n ofalydd maeth therapiwtig ac wedi bod am y flwyddyn ddiwethaf. Dros yr wythnosau diwethaf, bu'n rhaid i'm rôl newid i addasu i'r sefyllfa bresennol. Mae addysg gartref wedi profi ychydig yn heriol felly rydyn ni wedi dechrau dysgu trwy chwarae ac mae hynny'n gweithio i ni ac rydyn ni wir yn ei fwynhau nawr ac wedi setlo i mewn i drefn hyfryd. Rydym yn ymuno â llawer o sgyrsiau dros y we am gymorth ac rydym hefyd yn cael cinio dros y we yn wythnosol gyda'r Tîm Mhyst."
Mae'r tîm yn dal i gymryd ymholiadau gan y rhai sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth neu a hoffai ychydig o gyngor ar sut i gymryd y cam cyntaf, ewch i www.blaenau-gwent.gov.uk/maethu
Gallwch gefnogi ymgyrch Pythefnos 2020 Gofal Maeth trwy ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol. gallwch ddod o hyd i ni ar facebook @°¬²æAƬ CBC neu twitter @blaenaugwentcbc
#Dymaywmaethu