°¬²ęAʬ

Daliwch ati gyda’r ymdrechion ailgylchu GWYCH y Nadolig hwn i gael Cymru i rif un

Wrth i gyfradd ailgylchu Cymru gyrraedd ei lefelau uchaf erioed, rydyn niā€™n galw ar ein preswylwyr i ddal ati gydaā€™u hymdrechion ā€˜gwychā€™ i ailgylchuā€™r Nadolig hwn.Ā 

Gyda 94% ohonom yn ailgylchuā€™n rheolaidd *, mae Cymruā€™n genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni ywā€™r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn niā€™n cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un.

Maeā€™r data diweddaraf yn datgelu ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig, gan fod cyfradd ailgylchu Cymru wedi codi i 65.4%**. Mae hyn yn golygu ein bod yn ailgylchu ychydig mwy na 65% oā€™n gwastraff yn gyfan gwbl, syā€™n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru yn ā€˜Mwy nag Ailgylchuā€™ o 64% ar gyfer eleni.

Datgelodd arolwg a gynhaliwyd yn gynharach eleni bod mwy na 8 ym mhob 10 o ddinasyddion Cymruā€™n ystyried mai ailgylchu ywā€™r peth ā€˜iawnā€™ iā€™w wneud erbyn hyn, ac mae 7 allan o 10 yn ailgylchu i chwarae eu rhan dros yr amgylchedd.*** Mae mwy ohonom nag erioed yn gweld ailgylchu fel rhan oā€™n harferion dyddiol. Maeā€™n ddiddorol gweld bod cynnydd mawr yn y nifer ohonom syā€™n nodi mai pryderon amgylcheddol yw ein prif ysgogiad i ailgylchu. Mae hyn yn wych, ond gyda bron iā€™n hanner ni ddim yn ailgylchu popeth y gallwn o hyd, mae mwy y gallwn ei wneud i sicrhau bod ein heitemau ailgylchadwyā€™n cael eu rhoi allan gydaā€™n casgliadau ailgylchu ar ymyl y ffordd bob wythnos.

Os ydym ni am gael Cymru oā€™r trydydd safle yn y byd i rif un, a pharhau i ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr, mae angen inni oll roi hybu ein hymdrechion dros gyfnod yr Å“yl.

Yn draddodiadol, y Nadolig ywā€™r adeg oā€™r flwyddyn pan gaiff mwy o wastraff ei greu gartref. Oā€™r holl fwyd ychwanegol rydyn niā€™n ei brynu, iā€™r mynydd o ddeunydd pacio a ddaw yn sgil prynu anrhegion Nadolig, maeā€™n gyfle gwych i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.

Dyna pam rydyn niā€™n cefnogiā€™r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych y Nadolig hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
ā€œMae dinasyddion Cymruā€™n dangos eu bod yn WYCH am ailgylchu, a dylem oll fod yn falch oā€™n hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn niā€™n galw ar einĀ  preswylwyr i ddal ati gydaā€™r gwaith da dros y Nadolig a helpu i gael Cymru i Rif 1, yn enwedig gan mai ar yr adeg hon oā€™r flwyddyn rydyn niā€™n defnyddio ac yn prynu llawer mwy nag arferā€.

ā€œGwyddom fod pobl yng Nghymruā€™n malio am ddiogelu ein gwlad hardd ac mae ailgylchuā€™n chwarae rhan allweddol mewn taclo newid hinsawdd. Dyma weithred syml y gall pawb ei gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawnā€.

Dilynwch y cynghorion gwych hyn i fod yn Ailgylchwr Gwych y Nadolig hwn:

ā€¢ Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymruā€™n darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwydydd dros ben na ellir eu bwytaā€™n ddiogel yn nes ymlaen! A daliwch ati i ailgylchu gwastraff bwyd arall dros gyfnod y Nadolig hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau a hen fara.

ā€¢ Concrwch eich cardbord y Nadolig hwn. Gallwch ailgylchuā€™r holl gardbord a ddaw yn eich danfoniadau ar-lein. Tynnwch y tĆ¢p pacio a fflatio unrhyw focsys, neu gallwch eu torriā€™n ddarnau llai i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu. Ar Ć“l y Nadolig, ailgylchwch eich cardiau i gyd, ond cofiwch dynnu unrhyw fathodynnau, ffoil, llwch llachar neu rubanauā€™n gyntaf, gan na ellir ailgylchuā€™r darnau hyn.

ā€¢ Gellir ailgylchuā€™r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir o amgylch y cartref, yn cynnwys poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau, a photeli nwyddau ymolchi. Gwagiwch, rinsiwch a gwasgwch nhw cyn eu hailgylchu. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Gallwch hefyd ailgylchuā€™r tybiau plastig mawr o siocled a losin maeā€™r rhan fwyaf ohonom yn eu mwynhau dros y Nadolig!

ā€¢ Peidiwch anghofio ffoil y Nadolig hwn. Ailgylchwch eich casys mins peis ffoil gwag ac unrhyw ffoil a gafodd ei ddefnyddio i goginio dros y Nadolig, cyn belled Ć¢ā€™i fod yn lĆ¢n, heb staen a heb fwyd, saim neu olew arno. Rinsiwch dybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu hailgylchu.

ā€¢ Gellir ailgylchu caniau bwyd a diod metel. Rhowch rinsiad sydyn iā€™r caniauā€™n gyntaf.

ā€¢ Mae papur lapio yn anodd ei ailgylchu, ond mae yna ddewisiadau amgen ecogyfeillgar iā€™w cael, fel papur brown a brethyn lapio, a gellir eu haddurno gyda rhubanau Nadoligaidd, aā€™r peth da amdanyn nhw yw y gellir eu defnyddio eto'r flwyddyn nesaf!

Os ydych chiā€™n ansicr oā€™r hyn y gallwch ā€“ ac na allwch ā€“ ei ailgylchu, gallwch ddefnyddio Lleolydd Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu.

I ddysgu mwy am ffeithiau ac awgrymiadau ā€™12 dydd y Nadoligā€™ Cymru yn Ailgylchu, ewch draw iā€™r wefan byddwychailgylcha.org.uk/ neu ymunwch Ć¢ā€™r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha a #ByddWychDrosYDolig.
___________________________________________________________

* WRAP National Recycling Tracker (Cymru), Mawrth 2021
** StatsCymru
*** Arolwg Icaro Post-Burst 3, Ebrill 2021