- Mae dau gwrt tennis parc ym Mlaenau Gwent wedi ailagor yn swyddogol ar Ă´l gwaith adnewyddu a gafodd ei reoli gan y Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) a’i gyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Sefydliad Tennis LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.
- Mae’n rhan o’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau tennis parc ar draws Prydain gyda miliynau o bunnau yn mynd i drawsnewid dros 2000 cwrt
- Agorwyd y cyrtiau yn swyddogol mewn digwyddiad yn Six Bells
Mae cyrsiau tennis parc ym Mlaenau Gwent wedi ailagor yn swyddogol ar Ă´l gwaith adnewyddu o ÂŁ37,516.70, a gafodd ei reoli gan yr LTA a’i gyllido gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.
Cynhaliwyd seremoni ailagor yng nghyrtiau tennis Parc Six Bells, sydd ymysg y rhai a fanteisiodd o’r buddsoddiad, gyda Alun Davies AS, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ Cyng Helen Cunningham a chynghorwyr lleol yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o’r LTA. Roedd cyfle i bobl o’r gymuned leol i afael mewn raced a mynd ar y cwrt am amrywiaeth o sesiynau tennis.
Drwy’r Prosiect Tennis Parc mae’r LTA yn cyflwyno’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau tennis parc ar draws Prydain, a ddefnyddiwyd i drawsnewid dau gwrt yn yr ardal leol, gan roi hwb sylweddol i gyfleusterau chwaraeon.
Cafodd y cyrtiau ym Mharc Six Bells eu hadnewyddu i sicrhau eu bod yn hyfyw am flynyddoedd i ddod a gellir yn awr archebu cyrtiau ar-lein. Caiff miloedd o gyrtiau tennis parc presennol mewn cyflwr gwael eu hadnewyddu dan y rhaglen hon ar draws Prydain er budd cymunedau, gan roi cyfleoedd hanfodol ar gyfer plant ac oedolion i fod yn actif.
Yn ogystal â sesiynau tenis parc wythnosol am ddim, gydag offer wedi’i ddarparu, bydd y cyrtiau newydd yn cynnal Cynghreiriau Tennis Lleol, gan roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn cystadlaethau lleol cyfeillgar a chymdeithasol.
Gellir archebu pob cwrt drwy Mae systemau archebu newydd a thechnoleg mynediad clwyd yn golygu ei bod yn awr yn rhwyddach cael cwrt drwy archebu ymlaen llaw i warantu bod lle ar gael. Gellir prynu pas blynyddol i aelwyd am ÂŁ39, ac mae pas blynyddol myfyrwyr yn costio ÂŁ19. Mae talu-a-chwarae yn costio ÂŁ4.50 yr awr – bydd ffioedd bach yn sicrhau y caiff y cyrtiau eu cynnal ar eu safon uchel newydd am flynyddoedd i ddod. Bydd yr LTA a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ yn cydweithio i sicrhau fod sesiynau tennis parc am ddim ar gael ar y cyrtiau gan roi cyfleoedd rheolaidd i unrhyw un godi raced a chwarae.
Dywedodd y Cyng Helen Cunningham, Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) a grwpiau cymunedol lleol am eu cefnogaeth wrth wella cyrtiau tennis Parc Six Bells. Bydd yr adnewyddu hwn yn rhoi cyfleoedd i’r gymuned leol ac ehangach i chwarae tennis ar ba lefel bynnag ac mewn cyfleusterau ansawdd uchel.”
Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yr LTA:
“Ar Ă´l misoedd o waith caled, rydym yn falch iawn gweld cyrtiau tennis parc ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ yn Ă´l ar agor i’r cyhoedd, ac mewn cyflwr gwell nag erioed.
“Mae cyrtiau tennis cyhoeddus yn gyfleusterau mor hanfodol i gadw’n heini a rydym eisiau i gynifer o bobl ag sydd modd, o bob oedran a gallu, i godi raced a mwynhau chwarae tennis. Diolch i’r buddsoddiad hwn, caiff y gamp ei hagor i fwy o chwaraewyr, am flynyddoedd i ddod.”
Meddai Stuart Andrew AS, Gweinidog Chwaraeon:
“Rydym yn ymroddedig i sicrhau mynediad cyfartal i chwaraeon sydd mor bwysig ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol y genedl.
“Mae’r Llywodraeth a’r LTA yn cydweithio i adnewyddu miloedd o gyrtiau ar draws Prydain Fawr, gyda chefnogaeth ÂŁ30 miliwn o fuddsoddiad yn cynnwys yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.
“Bydd y cyfleusterau tennis gwell hyn ym Mlaenau Gwent yn rhoi cyfleoedd hwyl i’r gymuned leol i fod yn actif ac efallai ddod yr Andy Murray neu Emma Raducanu nesaf”.