°¬²æAƬ

Cynllun Menter Treftadaeth Treflun yn Cefnogi Prosiect Adnewyddu Lleol

Mae adeilad lleol yn Nhredegar i dderbyn ailwampiad sylweddol hanesyddol yn dilyn cynnig grant gan y Cynllun Menter Treftadaeth Treflun Tredegar (MTT). 

Mae'r Tredegar Arms yn ffurfio rhan allweddol o dirwedd hanesyddol o adeiladau a adeiladwyd allan o dwf y dref gan y diwydiant haearn ac yn ddiweddar wedi disgyn i gyflwr gwael. Mae'r perchnogion wedi derbyn cynnig ariannol gan yr MTT Tredegar i helpu i adnewyddu cadwraeth sensitif i ddarparu cyfleuster bwyty, gwesty a chyfleuster ystafell gweithrediadau yn Nhredegar.

Ariennir y prosiect gan nifer o bartneriaid, gan gynnwys y perchnogion, gyda'r cyfraniadau grant MTT yn cael ei wneud i fyny o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Rhaglen VVP Llywodraeth Cymru Mynd i'r Afael â Thlodi, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ.

Bydd y cyllid partneriaeth yn adnewyddu'r tu allan gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol er mwyn caniatáu i'r adeilad i ymddangos a gweithredu fel y’i bwriadwyd yn wreiddiol. Bydd to llechi newydd, rendro calch a ffenestri codi pren ynghyd â chanopi mynedfa integreiddiedig wedi’i ddylunio’n sensitif a oedd yn wreiddiol yn rhan o'r adeilad ond a symudwyd yn ystod gwaith adeiladu blaenorol.

Bydd y gwaith mewnol yn cael ei wneud i ddarparu bwyty mawr a chyfleuster gwesty gyda gofod ar gyfer achlysuron i gyd-fynd â hynny gan ddefnyddio deunyddiau priodol er mwyn i'r adeilad weithredu fel lleoliad o ansawdd uchel.

Dywedodd y Cyngh. Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ:

"Rwyf wrth fy modd bod un o'n adeiladau hanesyddol yn y fwrdeistref wedi derbyn cynnig grant drwy'r Fenter Treftadaeth Treflun Tredegar.

Nid yn unig y bydd y grant yn helpu i ddiogelu ein treftadaeth unigryw, ond mae'n fuddsoddiad sylweddol a fydd yn cyfrannu at fywiogrwydd economaidd yn yr ardal.

Yr wyf yn edrych ymlaen at ddechreuad y gwaith adnewyddu ac at adfywhau’r adeilad."

Ariennir y Cynllun Menter Treftadaeth Treflun gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), Rhaglen VVP Llywodraeth Cymru Mynd i’r Afael â Thlodi, Cadw a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ.