Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a fydd yn cael ei ddefnyddio i arwain datblygiad yn y Fwrdeistref tan 2033.
Cyn paratoi’r cynllun manwl, mae’r cyngor yn ymgynghori ar “Strategaeth a Ffefrir”. Mae hon yn amlinellu’r weledigaeth, yr amcanion a’r strategaeth a ffefrir ar gyfer datblygiad yn yr ardal.
Fe allwch chi helpu cynllunio dyfodol °¬˛ćAƬ trwy adael i’r cyngor wybod beth rydych chi’n ei feddwl o’r Strategaeth a Ffefrir.
A yw’r strategaeth:
• Yn nodi’r heriau iawn i’w trafod gan y cynllun datblygu newydd?
• Yn darparu digon o swyddi newydd i gyfrannu at dwf economaidd?
• Yn darparu digon o gartrefi gan gynnwys cartrefi fforddiadwy?
• Ydy’r twf yn y lleoedd cywir?
• Yn darparu digon o swyddi newydd i gyfrannu at dwf economaidd?
• Yn darparu digon o gartrefi gan gynnwys cartrefi fforddiadwy?
• Ydy’r twf yn y lleoedd cywir?
Mae’r cyfnod ymgynghori’n rhedeg o Ionawr16, 2020 tan Chwefror 27, 2020.
Yn ystod y cyfnod hwn, caiff y cyhoedd gyfle i drafod cynigion gyda swyddogion mewn sesiynau galw-heibio a gynhelir ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Gellir gweld taflen o grynodeb, y ddogfen gyflawn, ffurflenni sylwadau a phob dogfen gefnogol ar wefan y cyngor.
I weld copïau celyd o’r dogfennau ymgynghorol, cewch ymweld â:
• Phob llyfrgell leol
• y Ganolfan Ddinesig, Glyn Ebwy
• Llys yr Eingion, Abertyleri
• y Ganolfan Ddinesig, Glyn Ebwy
• Llys yr Eingion, Abertyleri
Cewch hefyd gysylltu â swyddogion ar (01495) 355538 neu 354740. Fel arall, e-bostiwch planningpolicy@blaenaugwent.gov.uk