Heddiw clywodd Aelodau Pwyllgor Craffu Pobl Cyngor °¬²æAƬ am yr ymrwymiad parhaus i fonitro ac adolygu darpariaeth Addysg yn y Fwrdeistref Sirol i sicrhau gwelliannau pellach mewn deilliannau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae gan y Gyfarwyddiaeth Addysg raglen barhaus o hunanwerthuso, a gaiff ei gyrru gan y blaenoriaethau gwella yng Nghynllun Gwella Addysg 2022 – 2025.
Clywodd y pwyllgor sut y gwnaed cynnydd cyson mewn nifer o feysydd, yn arbennig yng nghyswllt perfformiad ysgol lle mae’r proffil arolygu a chategoreiddio wedi gwella. Bu hefyd ostyngiad yn nifer yr ysgolion sy’n achosi pryder ac sydd angen ymyriad, a dangosodd dadansoddiad cynnar mai canlyniadau TGAU eleni yw’r rhai gorau erioed yn seiliedig ar arholiadau allanol.
Siaradodd yr adroddiad hefyd am gyfuno arweinyddiaeth mewn gwasanaethau addysg a chymorth, cydweithio da gyda ac ar draws ein hysgolion, cynnydd yng nghyswllt diwygio Anghenion Datblygu Ychwanegol ac addysg Gymraeg a’r nifer isaf erioed o bobl ifanc NEET (heb fod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant).
Mae hefyd nifer o feysydd ar gyfer ffocws a gwella yn cynnwys caffael iaith mewn plant blynyddoedd cynnar, gwella cyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a hefyd ddisgyblion mwy galluog a gwella presenoldeb. Bydd hefyd ffocws adferiad ar lesiant disgyblion a staff yn dilyn ychydig flynyddoedd anodd oherwydd pandemig Covid.
Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar ei flaenoriaethau ac mae hefyd wedi ffurfio gweithgor Penaethiaid Ysgol i sicrhau fod ymgysylltu, cyfathrebu ac ymgynghoriad effeithlon gydag ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg:
“Mae Addysg yn flaenoriaeth i Gyngor °¬²æAƬ ac mae’r adroddiad hunanarfarnu hwn yn dynodi rhai meysydd sylweddol o gynnydd. Mae hyn yn glod i waith caled ac ymroddiad pawb sy’n ymwneud gydag addysgu a chefnogi ein plant a phobl ifanc. Rydym yn ymroddedig i adeiladu ar hyn fel y gallwn sicrhau fod gan bob dysgwr fynediad i’r cyfleoedd gorau oll i lwyddo. Byddwn yn parhau i weithio i wella ac mae hunanarfarnu a bod yn onest gyda ni’n hunain am berfformiad a meysydd i’w datblygu yn rhan hanfodol o hyn.â€
Ìý