°¬²æAƬ

Cyngor yn cwblhau erlyniad llwyddiannus

Cafodd Jessica Chilton, 29 oed o Frynithel, ei dedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd ar 22/03/24 ar ôl pledio'n euog ar 14/03/24 yn Llys Ynadon Cwmbrân i 7 trosedd o dan adran 92 Deddf Nodau Masnach 1994 yn ymwneud â gwerthu a hysbysebu nwyddau ffug.

Esboniodd yr erlynydd Hayley Hawkins wrth y Llys fod Gwasanaeth Safonau Masnach CBS °¬²æAƬ wedi ymchwilio i Chilton wedi i gŵyn gael ei derbyn ym mis Hydref 2022 yn honni ei bod yn gwerthu nwyddau ffug o'i thÅ· a thrwy Facebook. Cadarnhaodd ymchwiliadau safonau masnach ei bod yn hysbysebu ac yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau ffug trwy ei thudalen Facebook breifat a hefyd grŵp Facebook preifat o'r enw Affordable Brands 2. Roedd y nwyddau a hysbysebwyd yn cynnwys eitemau trydanol fel lampau a sythwyr gwallt yn ogystal â gemwaith, dillad a chlustffonau.

Dywedwyd wrth y Llys fod Chilton yn hysbysebu nwyddau ffug er iddi dderbyn ymweliad rhybuddio gan Safonau Masnach flwyddyn ynghynt pan ddaeth cwyn debyg i law, ac eglurwyd iddi, pe bai'n parhau i werthu, y byddai’n debygol o arwain at erlyniad.

Gweithredwyd gwarant ar 03/11/22 yng nghyfeiriad cartref Chilton lle cafwyd hyd i feintiau sylweddol o ddillad, esgidiau a bagiau llaw ffug yn barod i'w gwerthu i gwsmeriaid. Roedd y brandiau a atafaelwyd yn cynnwys treinyrs Nike, adidas a Balenciaga, crysau-t Under Armour a North Face, a bagiau llaw Gucci a Chanel.

Cafodd Ms Chilton ei chynrychioli gan Joe Davies o Driscoll Young Solicitors a honnodd fod Chilton wedi gweld cyfle ar Facebook fel ffordd o wneud arian, cynllun cyflym i helpu i gadw to uwch ei phen. Derbyniodd fod ffyrdd cyfreithlon eraill o ennill incwm ond nid oedd yn deall yn iawn y canlyniadau o werthu'r nwyddau hyn ar-lein.

Wrth ddedfrydu, dywedodd yr Ynadon fod gwerthu eitemau ffug yn cael ei gymryd o ddifrif pan wneir hynny er budd personol gan fod angen amddiffyn y cyhoedd a gweithgynhyrchwyr fel ei gilydd. Roeddent yn credu bod gan Ms Chilton rôl bwysig i'w chwarae wrth ddosbarthu eitemau a gweinyddu tudalen cyfryngau cymdeithasol Affordable Brands 2 er gwaethaf rhybudd gan y Cyngor 12 mis cyn hynny. Roedd difrifoldeb y troseddau’n bodloni’r trothwy ar gyfer carchar ond oherwydd cymeriad da blaenorol Ms Morgan a phle euog cynnar, byddai Ms Chilton yn destun gorchymyn cymunedol 12 mis o 160 awr o waith di-dâl. Cafodd orchymyn hefyd i dalu gordal dioddefwr o £114 a £3000 tuag at gostau’r ymchwiliad.

Mae gwerthu nwyddau ffug trwy wefannau fel Facebook yn creu cystadleuaeth annheg i fusnesau dilys ac yn achosi difrod i fusnesau deiliaid brandiau, gan arwain at golli swyddi yn y diwydiant. Gall llawer o nwyddau ffug fel persawr, gemwaith, eitemau trydan a theganau beri risg diogelwch i'r cyhoedd gan nad ydynt wedi cael y gwiriadau diogelwch manwl y mae cynhyrchion dilys yn destun iddynt yn ystod y broses weithgynhyrchu. Mae ymchwiliadau Safonau Masnach yn amddiffyn busnesau cyhoeddus a chyfreithlon trwy sicrhau bod y cynhyrchion ffug yn cael eu tynnu oddi ar safleoedd siopa a bod y gwerthwyr yn cael eu cosbi’n briodol.