°¬˛ćAƬ

Cynghorau Torfaen a °¬˛ćAƬ yn mabwysiadu polisïau gorfodi ar y cyd

Mae cynghorau Torfaen a °¬˛ćAƬ bellach yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau diogelu'r cyhoedd, felly'n arwain at arbediad blynyddol o tua ÂŁ80k ar draws pob cyngor.

 

Bydd y polisi newydd ar y cyd yn sicrhau bod gorfodi yn cael ei drin mewn ffordd gyson ar draws y ddau awdurdod.


Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, aelod gweithredol dros yr amgylchedd yng nghyngor Torfaen: "Ar adeg pan ofynnir i gynghorau gyflawni mwy er bod yna doriadau yn eu cyllidebau, mae uno ein gwasanaethau diogelu'r cyhoedd gyda °¬˛ćAƬ wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol ac mae'r fath bolisi'n uno ein harferion.

 

"Rydym wedi canfod ffordd o arbed arian tra hefyd yn gwella cadernid y gwasanaeth, felly'n sicrhau y gallwn barhau i wneud ein gorau oll i ddiogelu trigolion a busnesau yn Nhorfaen a °¬˛ćAƬ."


Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, aelod gweithredol dros yr amgylchedd ym Mlaenau Gwent, : "Mae Cyngor °¬˛ćAƬ wrthi'n barhaus yn adolygu ac yn addasu gwasanaethau yng ngoleuni llai o gyllid gan y Llywodraeth. Gwyddom mai un o'r ffyrdd gorau o barhau i ddarparu gwasanaethau pwysig yw cydweithio ag awdurdodau lleol cyfagos.

 

"Mae ein partneriaeth â Chyngor Torfaen ar Wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yn hyn a dyma'r cam diweddaraf o ran sicrhau bod ein dau gyngor yn cydgysylltiedig er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaeth cost effeithiol fwyaf effeithlon i drigolion."