Caiff y gwaith sydd i ddechrau yn 2018 ei anelu'n bennaf at wella cyflwr ffyrdd preswyl ac mae'n ategu gwaith blaenorol ar briffyrdd A a B strategol ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn ogystal â gwella safon y ffyrdd hyn ar gyfer defnyddwyr bob dydd yn y gymuned, bydd buddsoddiadau mewn seilwaith strategol hefyd yn hybu cyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd, mewnfuddsoddi newydd a chreu canfyddiad cadarnhaol i ymwelwyr sy'n dod i'r ardal neu'n pasio trwyddi.
Dywedodd y Cyng Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd:
‘Rydym wedi gwrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd i'w ddweud am gyflwr ffyrdd preswyl ym Mlaenau Gwent. Mae creu amgylchedd gwell gyda seilwaith o fudd i'n cymunedau lleol a hefyd fusnesau ac ymwelwyr i Flaenau Gwent yn flaenoriaeth allweddol yr Awdurdod ac yn hollol gydnaws gydag Amcanion Llesiant yr Awdurdod.'