°¬˛ćAƬ

Cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i Eva Clarke

Cafodd Rhyddid Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ ei gyflwyno heddiw i Eva Clarke, a oroesodd yr Holocost, mewn cyfarfod yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy.

Cyflwynwyd yr anrhydedd gan y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd °¬˛ćAƬ, i gydnabod gwaith sylweddol Mrs Clarke yn rhannu hanes profiadau ei theulu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Mrs Clarke yn siarad yn gyhoeddus yn gyson am brofiadau ei theulu yn ystod yr Holocost ac yn gwirfoddoli fel siaradwr ar gyfer Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost. Drwy ei hanesion, mae’n gobeithio y bydd pobl yn dysgu o’r Holocost ac yn atal achosion o hiliaeth a rhagfarn rhag digwydd heddiw.

Dywedodd Mrs Eva Clarke:
"Rwy’n rhyfeddu. Roeddwn wedi synnu’n llwyr pan glywais, a’i theimlo’n anrhydedd enfawr. Mae’n fy ngwneud hyd yn oed yn falchach o fy nghysylltiadau Cymreig”.

Dywedodd Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ:
"Rwy’n hynod falch fod Mrs Eva Clarke wedi derbyn Rhyddid Bwrdeistref °¬˛ćAƬ. Mae’n gwneud gwaith gwerthfawr tu hwnt yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg cenedlaethau’r dyfodol am erchyllterau’r Holocost drwy ei siarad cyhoeddus.”

Memrwn Rhyddid y Fwrdeistref a gyflwynwyd i Eva Clarke heddiw, 5 Ebrill 2023, gan y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy.

Llun o’r chwith i’r dde - Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd, Eva Clarke ac Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ.