Enillydd diweddaraf cystadleuaeth chwarterol tynnu enw o het Pass Plas Cymru yw Logan Davies o Abertyleri, °¬²æAƬ.
Dewiswyd enw Logan ar hap gan Dioelwch Ffordd Cymru ac roedd wrth ei fodd i ennill.
Derbyniodd Logan £250 ar ôl llenwi a dychwelyd ei holiadur gwerthuso am gwrs Pass Plus Cymru.
Mynychodd Logan ran ymarferol cwrs Pass Plus Cymru yng Ngorsaf Dân Tredegar ddiwedd haf 2018 a gorffennodd elfen yrru y cwrs yn fuan wedyn. Caiff elfen ymarferol y cwrs ei arwain gan Swyddogion Diogelwch Ffordd o Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ gyda'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn cefnogi'r elfen yrru.
Cynlluniwyd y cwrs i ddatblygu technegau, ehangu profiad, galluogi ymgeiswyr i ennill hyder a chynyddu ymwybyddiaeth o'r peryglon y gallant eu cael tra'n gyrru. Talodd Logan £20 tuag at y cwrs gyda gweddill costau'r cwrs yn cael ei ariannu drwy grant awdurdod lleol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r cwrs ar agor i bob gyrrwr 17-25 oed sy'n byw yng Nghymru.
Roedd yn bleser gan y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, i gyflwyno ei siec i Logan a dywedodd "Mae Pass Plus Cymru yn gwrs rhagorol ac mae medru derbyn y profiad gyrru ychwanegol am ddim ond £20 yn werth ardderchog am arian. Byddem yn hoffi croesawu mwy o yrwyr ifanc ar y cwrs er mwyn iddynt gael profiad gwerthfawr a dod yn fwy ymwybodol o'u hamgylchedd a pheryglon wrth yrru er mwyn eu helpu i wneud gyrwyr mwy diogel".
Dywedodd Logan, "Roeddwn yn falch iawn i ennill arian y wobr. Roeddwn wedi anghofio popeth amdano felly oedd yn newyddion da pan gefais ef. Fe wnes fynd ar y cwrs i ostwng cost fy yswiriant car. Gallais wneud hynny a chael profiad o yrru ar draffyrdd ac ar ffyrdd gwledig" Mae Logan yn bwriadu defnyddio'r arian i gynnal a chadw ei char neu efallai at ei wyliau.