Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Abertyleri, NP13 1QD
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ ar y cyd â Gyrfa Cymru yn trefnu Digwyddiad Ysbrydoliaeth i ddisgyblion blwyddyn 9 i dynnu sylw at yr ystod eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt.
Bydd disgyblion o Ysgol Gyfun Ebbw Fawr, Abertyleri a Brynmawr yn cymryd rhan yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn a fydd yn eu cynorthwyo cyn iddynt orfod gwneud eu dewisiadau.
Bydd y digwyddiad yn gysylltiedig â hyrwyddo ystod eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt yn ymwneud â meysydd pwnc Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Mae'r digwyddiad yn edrych i gynnwys cwmnïau ar draws ystod o sectorau gan gynnwys gweithgynhyrchu uwch, digidol / TGCh, Adeiladu a'r Economi Sylfaenol. Bydd yn ymwneud â hyrwyddo gyrfaoedd ym maes pwnc STEM ac felly mae'n ofynnol i gwmnïau sydd â diddordeb ffocysu ar weithgareddau rhyngweithiol i ymgysylltu â'r disgyblion. Bydd y digwyddiad hefyd yn tynnu sylw at lwybrau prentisiaeth fel dewis arall credadwy i'r Brifysgol.
Os ydych chi'n gwmni sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r diwrnod hwn neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at ±ô¾±²õ²¹.³¾±ð°ù±ð»å¾±³Ù³ó°ª²ú±ô²¹±ð²Ô²¹³Ü–g·É±ð²Ô³Ù.²µ´Ç±¹.³Ü°ì erbyn dydd Gwener 19eg Ionawr 2018.