°¬²æAƬ

CCB y Cyngor yn cytuno ar gynlluniau Llywodraethiant dros dro ar gyfer Covid-19

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor °¬²æAƬ drwy dele-gynhadledd heddiw yn ystod y pandemig Covid-19.

Yn y cyfarfod ail-etholwyd y Cynghorydd Nigel Daniels yn Arweinydd y Cyngor ac Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, gyda’r Cynghorydd Dai Davies yn cael ei enwi’n Ddirprwy Arweinydd a hefyd yn Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd.

Ail-etholwyd y Cynghorydd Mandy Moore yn Gadeirydd y Cyngor a phenodwyd y Cynghorydd Julie Holt yn Ddirprwy Gadeirydd.

Aelodau Pwyllgor Gweithredol y Cyngor a’u portffolios perthnasol yw:

  • Arweinydd a Gwasanaethau Corfforaethol – Cynghorydd Nigel Daniels
  • Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd  Dai Davies
  • Addysg  – Cynghorydd Joanne Collins
  • Gwasanaethau Cymunedol – Cynghorydd Joanna Wilkins
  • Gwasanaethau Cymdeithasol – Cynghorydd John Mason

Gofynnwyd i aelodau hefyd ystyried cyfres o drefniadau Llywodraethiant dros dro ar gyfer cyfnod y pandemig Covid-19. Felly cytunwyd bod:

  • Y Cyngor yn dirprwyo grym a chyfrifoldeb dros dro ar gyfer ymarfer swyddogaethau Gweithredol (lle na chawsant eu dirprwyo eisoes drwy drefniadau presennol o fewn Cyfansoddiad y Cyngor) i’r Rheolwr Gyfarwyddwr, neu yn ei habsenoldeb, ddirprwy a enwebwyd o’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol.
  • Er mwyn sicrhau ymgyfraniad priodol ar gyfer Aelodau Etholedig, sefydlir Pwyllgor Argyfwng o Aelodau Etholedig trawsbleidiol. Ymgynghorir â’r Pwyllgor Argyfwng hwn ar benderfyniadau a all fod tu allan i gyllideb bresennol neu fframwaith polisi y Cyngor.

Dywedodd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor:

“Hoffwn ddiolch i aelodau etholedig am gymeradwyo’r mesurau pwysig hyn heddiw, fydd yn galluogi’r Cyngor i wneud penderfyniadau amserol yn ystod y pandemig Covid-19. Mae angen i ni fedru ymateb fel mater o frys ac ymgymryd ag unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn sicrhau fod gwasanaethau critigol yn parhau, ac y gallwn warchod a diogelu ein preswylwyr a’n staff.

Mae hwn yn sicr yn gyfnod digynsail a gwn fod y Pwyllgor Gweithredol a finnau’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i fusnes fel arfer. Am nawr, ynghyd â fy nghyd-gynghorwyr ar draws y fwrdeistref, rydym yn brysur yn chwarae ein rhan yn cefnogi ein hetholaethau a hoffwn ddiolch i bawb ohonoch am eich holl ymroddiad a’ch gwaith caled.â€

Bydd manylion llawn Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu ar gael ar ein gwefan - /cy/cyngor/cynghorwyr-a-phwyllgorau/

Mae manylion llawn holl bwyllgorau’r Cyngor a chynrychiolwyr ar gyrff allanol ar gael yno hefyd.