Bydd cymdeithas tai United Welsh yn creu 23 o gartrefi ar gyn safle yr Ysgol Babanod yn Sirhywi.
Derbyniodd y datblygiad gyllid o bron ÂŁ2.1m o Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ a Pendragon, bydd United Welsh yn datblygu 4 fflat un ystafell wely, 2 fflat dwy ystafell wely, 13 tĹ· dwy ystafell wely a 4 tĹ· tair ystafell wely, ar gost o dros ÂŁ2.8m.
Dywedodd Richard Mann, Cyfarwyddydd Gweithrediadau United Welsh: "Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cartrefi newydd hyn y mae cymaint o angen amdanynt.
"Mae'n werth chweil parhau i gyflenwi cartrefi cynaliadwy ar gyfer pobl leol a chreu cymunedau newydd."
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor °¬˛ćAƬ: "Rwy'n falch i groesawu datblygiad tai arall o'r radd flaenaf gan United Welsh i'r fwrdeistref sirol".