°¬²æAƬ

Caiff pobl ym Mlaenau Gwent sydd ag ystod eang o symptomau ac sy’n teimlo’n wael yn gyffredinol eu hannog i gael prawf am ddim ar gyfer coronafeirws.

Caiff pobl ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen sydd ag ystod eang o symptomau ac sy’n teimlo’n wael yn gyffredinol eu hannog i gael prawf am ddim ar gyfer coronafeirws.

Yn ogystal â thri symptom clasurol coronafeirws sef gwres uchel, peswch newydd parhaus neu golli neu newid yn eich synnwyr blas ac arogl, gallwch gael prawf gyda symptomau hefyd.

Mae’r symptomau ychwanegol hyn yn cynnwys:

• Symptomau tebyg i ffliw yn cynnwys cyhyrau poenus, blinder mawr, pen tost parhaus, trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi blocio, tisian parhaus, llwnc tost a/neu grugni neu wichian.
Dylech hefyd archebu prawf hefyd os ydych:
•  yn teimlo’n wael yn gyffredinol neu os ydych wedi bod mewn cyswllt yn ddiweddar gyda rhywun gyda coronafeirws
• â symptomau newydd, neu newid mewn symptomau hyd yn oed os ydych wedi cael prawf negyddol o’r blaen.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithredu 14 cyfleuster profion ar dras yr ardal ac mae cael prawf hyd yn oed yn gyflymach, rhwyddach a gyda chanlyniadau’n cael eu dychwelyd o fewn 24 awr yn y rhan fwyaf o achosion.

Gofynnir i bobl sydd ag unrhyw rai o’r symptomau newydd aros gartref a threfnu prawf mewn cyfleuster yn agos atynt drwy ffonio 119 neu archebu ar-lein: https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19