Bydd y gwaith yn cynnwys samplu a dadansoddiad rheoledig ar y pentyrru gwastraff i bennu math a chyflwr y deunyddiau sydd ar hyn o bryd ar y safle. Bydd y contract yn cael ei wneud gan Cuddy Remediation a'i oruchwylio gan Dîm Gwasanaethau Technegol y Cyngor.
Bydd y gwaith ymchwilio hyn yn sail i drafodaethau yn y dyfodol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a fydd wedyn yn pennu strategaeth ar gyfer symud y pentyrru gwastraff.
Iechyd a Diogelwch yw'r brif flaenoriaeth a bydd y Cyngor yn parhau i fonitro'r safle yn ystod y gwaith ymchwilio.