Ar hyn o bryd mae yna tua 1000 o blant o bosibl yn gymwys yn Nhorfaen. I fod yn gymwys, rhaid bod rhieni’n gweithio cyfwerth ag 16 awr am y lleiafswm cyflog cenedlaethol ac yn byw yn Nhorfaen, serch hynny mae modd defnyddio darparwyr gofal plant yn Nhorfaen a thu allan i’r fwrdeistref.
Bydd Cyngor °¬²æAƬ yn gweinyddu’r cynllun ac yn gweithio gyda Thorfaen i ddarparu’r cynnig. Bydd °¬²æAƬ yn delio â cheisiadau ar gyfer rhieni sy’n byw yn Nhorfaen, ac yn penderfynu ar bwy sy’n gymwys ac yn dosbarthu ffurflenni archebu gofal plant, yn cael darparwyr gofal plant yn Nhorfaen i ymuno a delio gyda thaliadau a darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru. Hyd yn hyn, mae 308 o blant ym Mlaenau Gwent wedi cael arian gyda 46 o ddarparwyr ar hyn o bryd yn elwa o arian i gyflenwi’r cynnig.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Blant, Pobl HÅ·n a Gofal Cymdeithasol,
Huw Irranca-Davies: “Mae ein cynnig gofal plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ar draws Cymru, yn lleihau’r baich ar incwm y teulu ac yn helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn rhwystr iddyn nhw wrth dderbyn gwaith neu gynyddu eu horiau.
“Rwy’n hynod o falch o gadarnhau bod y cynnig yn cael ei gyflwyno yn Nhorfaen, wrth i ni barhau i gyflwyno’r cynnig ar draws y wlad i gyd erbyn Medi 2020.â€
Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol Torfaen dros Blant a Phobl ifanc:
"Mae’r cynllun hwn yn helpu rhieni sy’n gweithio ac mae’n annog rhieni sydd am ddychwelyd i’r gwaith gan nad yw cyflog yn cael ei lyncu’n syth gan gostau gofal plant. Rydym wedi bod yn ymgynghori gyda darparwyr gofal plant yn lleol ac mae adborth oddi wrth rieni a darparwyr ym Mlaenau Gwent wedi bod yn gadarnhaol iawn. Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda °¬²æAƬ sydd wedi bod yn rheoli eu cynllun nhw’u hunain yn llwyddiannus am dros flwyddyn.
Ychwanegodd y Cyng. John Mason, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent:
"Roeddem wrth ein bodd i gael ein dewis fel ardal beilot yn ôl yn 2016 ac rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cynllun wedi bod yn llwyddiant yma ym Mlaenau Gwent.
Mae hwn yn gynllun gwych ac rydym wedi ei farchnata i sicrhau bod cymaint â phosib o deuluoedd cymwys yn cael mynediad at y fath gymorth am ddim gyda gofal plant. Gwyddom y gall wneud yr holl wahaniaeth i deulu sy'n gweithio yn ogystal â chynnig manteision ariannol a chymdeithasol.
"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda Thorfaen ar eu cynnig a byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a'n profiad hyd yma i sicrhau bod yr ardal hefyd yn manteisio ar fuddion y cynllun."
Bydd modd gwneud cais o Orffennaf 2018 ymlaen.