Rydym wedi cyhoeddi 12 Hysbysiad Gwella Safle yn ddiweddar i safleoedd tecawê o amgylch y fwrdeistref sirol, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud gwelliannau er mwyn cydymffurfio’n llawn gyda’r rheoliadau Covid-19 sydd yn eu lle ar gyfer busnesau.
Mae’r rheoliadau yn gosod gofynion neilltuol i ddiogelu rhag risgiau iechyd cyhoeddus yn deillio o Coronafeirws. Mae methiant i gydymffurfio gyda gofynion y Rheoliadau, heb esgus rhesymol, yn drosedd.
Cyhoeddodd ein swyddogion Diogelu’r Cyhoedd yr hysbysiadau yn unol â rheoliadau diogelu iechyd diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Gallwch weld yr Hysbysiadau Gwella Safleoedd yn llawn yma ar ein gwefan – /en/resident/latest-covid-19-information/coronavirus-covid-19-latest-information/
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd Cyngor °¬²æAƬ:
“Buom yn gweithio gyda busnesau lleol i roi cyngor a chefnogaeth ar yr hyn sydd ei angen ganddynt dan reoliadau Covid-19. Mae’r rheolau a’r rheoliadau hyn yn eu lle ar gyfer diogelwch cwsmeriaid a staff fel ei gilydd ac mae’n ofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â nhw. Rydym yn annog ac yn cefnogi busnesau lleol i gydymffurfio, ac mae mwyafrif ein busnesau yn gwneud gwaith gwych ond lle mae busnesau yn methu ymateb, byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i atal y Coronafeirws rhag lledaenu yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent.â€