Mae Cyngor °¬²æAƬ yn nodi’r Wythnos Lluoedd Arfog yr wythnos hon, gan ddangos y gefnogaeth falch sydd yn y fwrdeistref ar gyfer aelodau presennol a chyn-aelodau y lluoedd arfog a’u teuluoedd. Bydd y Cynghorydd Derek Bevan, Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog newydd °¬²æAƬ, yn mynychu Diwrnod Lluoedd Arfog Tredegar yn NhÅ· a Pharc Bedwellte ddydd Sul 26 Mehefin, 12pm-5pm.
Bydd y digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn, a drefnwyd gan Gyngor Tref Tredegar, yn cynnwys cerddoriaeth gyda Band y Catrawd Brenhinol Cymreig a chastell gwynt. Bydd Cyngor °¬²æAƬ yn codi’r faner ar gyfer yr Wythnos Lluoedd Arfog yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy ddydd Gwener 24 Mehefin.
Fel Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog, bydd y Cyng Bevan yn cadeirio Grŵp Cyfamod Lluoedd Arfog °¬²æAƬ. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r lluoedd arfog, cyrff cyhoeddus a sector gwirfoddol, i gydweithio i sicrhau fod y Gymuned Lluoedd Arfog ym Mlaenau Gwent yn derbyn triniaeth deg wrth ddarparu gwasanaethau.
Dywedodd y Cyng Bevan ‘Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle pwysig i ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned lluoedd arfog ym Mlaenau Gwent. Edrychaf ymlaen at Ddiwrnod Lluoedd Arfog llwyddiannus arall yn Nhredegar ac at fy rôl newydd fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog.’