Mae'r rocer Adam Owens a'i gyfaill Joel Withey wedi lansio busnes graffeg newydd yn Nhredegar.
Mae prif leisydd The Caspien a'i gyfaill wedi cael eu busnes newydd - Autografic - ar yr hewl gyda chefnogaeth gan Gronfa Kickstart.
Mae Autografic yn cynnig dewis eang o graffeg ar gyfer llawer o ddeunyddiau, ond mae'n arbenigo mewn cerbydau. "Mae busnesau'n sylweddoli mai eu cerbyd yw'r hysbyseb symudol orau y gallant ei chael, felly maent eisiau manteisio i'r eithaf ohoni, " meddai Joel.
"Mae'n ffordd ardderchog i hyrwyddo busnes a sicrhau y caiff eich enw ei weld. Mae'ch cerbyd yn dod yn hysbysfwrdd."
Yn ogystal ag ochr cerbydau'r busnes, mae Autografik yn cynnig arwyddion a brandio cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r busnes wedi derbyn cefnogaeth gan Gronfa Kickstart a gaiff ei rhedeg ar y cyd gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol °¬˛ćAƬ ac UK Steel Enterprise, is-gwmni Tata Steel. Bu BG Effect hefyd yn ganolog wrth roi cymorth i sefydlu'r busnes newydd.
Dywedodd y Cyng Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ: "Rwyf wrth fy modd ein bod yn cefnogi busnes arall o fewn °¬˛ćAƬ. Mae cynllun Kickstart yn rhoi grantiau i fusnesau newydd a busnesau presennol. Mae nifer o fusnesau wedi ennill y grant dros y blynyddoedd i'w helpu i sefydlu a thyfu.
"Yn ogystal â grantiau, mae gan adran adfywio'r Cyngor yn Cyng ystod eang o wasanaethau i gefnogi busnesau newydd a busnesau presennol megis rheoli uned eiddo a chyngor ar fusnes a buddsoddi. Mae mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau y gallwn eu cynnig ar gael yn www.blaenau-gwent.gov.uk”.