°¬²æAƬ

Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ yn ymateb i Storm Bert

"Mae Storm Bert wedi dod â dinistr ar draws De Cymru, ac mae ein cymunedau ym Mlaenau Gwent wedi cael eu heffeithio'n fawr.  Roedd y tywydd yn waeth na’r holl ragolygon, gyda symiau digynsail o law mewn rhai ardaloedd yn ein bwrdeistref. Roedd hon yn her eithriadol i'n Cyngor, ein gwasanaethau brys a'n cymunedau, wrth i ni weithio'n ddiflino i ymateb i nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal.

"Ein blaenoriaeth gyntaf oedd diogelu bywydau ein preswylwyr, diogelu eiddo lle bo hynny'n bosibl, a gwarchod seilwaith hanfodol. Er ein cynllunio a'n paratoadau yn seiliedig ar y rhagolygon a oedd ar gael, roedd dwyster ac effaith y storm yn fwy na phob disgwyliad. Mae cartrefi, busnesau, ysgolion, ffyrdd a chyfleusterau gofal plant wedi cael eu heffeithio. Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gennym yn ddigynsail, ac ar un adeg, roedd ein llinellau ffôn y tu allan i oriau wedi'u gorlethu'n llwyr.

"Roedd ein timau rheng flaen wedi paratoi, gydag adnoddau, offer a gwiriadau ychwanegol ar waith. Fodd bynnag, roedd ffyrnigrwydd y storm yn golygu ein bod ni, fel llawer ar draws y rhanbarth, wedi wynebu heriau enfawr.

"Mae'r tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi achosi aflonyddwch a gofid sylweddol, ond mae’r ymdrechion adfer yn mynd yn dda. Rydyn ni wedi clirio malurion ac ailgyfeirio dŵr i system ddraenio oddi ar y safle. Bydd asesiadau pellach yn penderfynu a oes angen cymryd camau ychwanegol. Mae trigolion wedi cael gwybod y gallant ddychwelyd adref.

"Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, gwyddom fod digwyddiadau fel hyn yn dod yn fwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd. Bydd meithrin gwytnwch yn ein cymunedau yn hanfodol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Cynhelir ôl-drafodaeth ac adolygiad llawn o'n hymateb i ddysgu gwersi, ond ar hyn o bryd, mae ein ffocws ar adfer a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Er ein bod yn teimlo rhyddhad na chollwyd unrhyw fywydau ac na chafwyd unrhyw anafiadau difrifol, gwyddom fod llawer o deuluoedd wedi wynebu dinistr yn sgil y lifogydd ac fel y dywedais, mae rhai preswylwyr wedi cael eu dadleoli o'u cartrefi. Ar ran y Cyngor, mae fy meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff ac asiantaethau partner anhygoel y Cyngor am eu hymdrechion diflino yn ystod y digwyddiad mawr hwn. Mae eu hymrwymiad i amddiffyn a chefnogi ein cymunedau wedi bod yn rhyfeddol. Rydw i hefyd am ddiolch i’m cyd-gynghorwyr am eu presenoldeb a'u cefnogaeth weladwy ar lawr gwlad. Mae eich sicrwydd a'ch ymrwymiad yn ystod y cyfnod anodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy.

"Yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i'n cymunedau. Unwaith eto, mae °¬²æAƬ wedi dangos gwytnwch ac undod aruthrol. Mae cymdogion wedi dod at ei gilydd, mae grwpiau wedi gweithredu, ac mae unigolion wedi camu i'r adwy i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus. Mae eich tosturi a'ch penderfyniad yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth.

"Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddarparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol i adfer. Yng Nghwmtyleri byddwn yn aros ar y safle nes bod yr holl fesurau diogelwch wedi'u cwblhau. Yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf gan y llifogydd, fel y Cwm, Llanhiledd a Thredegar, mae ein timau wedi bod yn cynorthwyo drwy lanhau, cynnig llety dros dro, a sicrhau y gall trigolion gael mynediad i’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae canolfannau cynghori a staff o ystod o wasanaethau yn parhau i fod wrth law i helpu.

"Mae hwn yn gyfnod o her aruthrol, ond gyda'n gilydd, gallwn adfer ac ailadeiladu. Mae °¬²æAƬ wastad wedi sefyll yn gryf yn wyneb adfyd, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gilydd wrth i ni symud ’mlaen."

Y Cynghorydd Steve Thomas
Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ