°¬²æAƬ

Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) wedi cyhoeddi ei adroddiad arolygu

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) wedi cyhoeddi ei adroddiad arolygu ar gyfer Cyngor °¬²æAƬ yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd ym mis Chwefror a Mawrth 2018. Edrychodd yr Arolygwyr ar effeithiolrwydd gwasanaethau a threfniadau awdurdodau lleol i helpu a diogelu plant a'u teuluoedd. Roedd perfformiad cyffredinol y Cyngor yn gadarnhaol ond mae cydnabyddiaeth o'r heriau sylweddol sy'n wynebu'r Cyngor wrth gyflwyno'r gwasanaeth ar adeg pwysau ariannol ac adnoddau. 

Mae meysydd penodol o adborth cadarnhaol yn cynnwys:

  • Canfu'r adroddiad fod gan y Cyngor weithlu ymrwymedig sy'n ymateb i lwyth gwaith sy'n mynd yn fwy ac yn fwy cymhleth. Disgrifiodd hunanasesiad y Cyngor y gyfradd gynnydd presennol o ran niferoedd y plant sy'n derbyn gofal yn anghynaliadwy o ran safbwynt y gweithlu a'r sefyllfa gyllidebol. Mae hyn yn golygu bod y galw am ein hadnoddau yn fwy na'r cyflenwad sy'n anochel yn rhoi pwysau ar y gwasanaeth. 

  • Mae'r awdurdod lleol wedi cyflawni ei swyddogaethau a'i gyfrifoldebau arweinyddiaeth a rhianta corfforaethol ac wedi hyrwyddo sefydlogrwydd, diogelwch a llesiant a diogelwch plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Mae gan y Cyngor grŵp rheoli sefydlog yr oedd y staff yn ystyried ei fod yn hawdd mynd ato ac yn gefnogol. Canfuom fod dyheadau uchel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn cael eu rhannu gan asiantaethau partner yn gyffredinol.

  • Cafodd plant, pobl ifanc a theuluoedd ymyriadau amserol trwy fynediad at wybodaeth, cyngor priodol a, lle bo'n briodol, asesiad ynghylch yr angen am ofal a chymorth.

  • Dangosodd y Cyngor ei fod yn gwerthfawrogi ac yn grymuso plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael llais effeithiol ac ymgysylltu'n ystyrlon mewn asesiadau, penderfyniadau a chynlluniau.

  • Roeddplant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn drwy’r defnydd effeithiol o waith diogelu amlasiantaeth a throthwyon amddiffyn plant.
     
  • Roedd cynlluniau i wneud trefniadau parhaol ar gyfer plant a phobl ifanc yn cael eu hadolygu'n effeithiol ac yn rheolaidd gan Swyddogion Adolygu Annibynnol. 

  • Canfu Arolygiaeth Gofal Cymru enghreifftiau o blant a phobl ifanc yn elwa ar fyw mewn lleoliadau diogel a sefydlog a oedd yn diwallu eu hanghenion. 

  • Roedd y Cyngor yn gweithio'n dda gyda phartneriaid ac yn gweithredu fel rhiant rhesymol i sicrhau bod pobl ifanc a oedd yn paratoi i adael neu a oedd wedi gadael gofal yn cael cymorth effeithiol i'w cynorthwyo i bontio'n llwyddiannus i fod yn oedolion. 

Mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn adroddiad cytbwys gydag ardaloedd o arfer da a nifer o feysydd a nodwyd ar gyfer eu datblygu. Mae'r Cyngor yn gwbl ymrwymedig i ddelio ag unrhyw anghysondebau wrth ymdrin â darparu gwasanaethau ac i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella.

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol dros y Gwasanaeth Cymdeithasol:

'Rwy'n falch bod adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal Cymru yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu ar adeg y galw digynsail am eu gwasanaethau. Er gwaethaf y pwysau ariannol ac adnoddau, mae'r tîm bob amser yn canolbwyntio ar y sefydlogrwydd; diogelwch a llesiant plant sy'n derbyn gofal, pobl sy'n gadael gofal a'u teuluoedd mewn amgylchiadau anodd yn aml. Mae meysydd lle gallwn wella ac rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach ag Arolygiaeth Gofal Cymru i fynd i'r afael â'r materion penodol a ddygwyd i'n sylw.'