Mae Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau bron £1m o arian gan yr UE i leihau’r defnydd o ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy greu mwy o adeiladau ynni effeithlon.
Caiff yr ymchwil ei harwain gan yr Athro Yacine Rezgui yng nghanolfan ragoriaeth Sefydliad Ymchwil Adeiladau (BRE) y Brifysgol, yn yr Ysgol Peirianneg.
Mae ei waith i wella rheoli ynni yn cynnwys dau safle yng Nghymru, un yn Aberdaugleddau yn Sir Benfro a’r llall yn hen waith dur Glyn Ebwy, °¬²æAƬ.
Caiff deilliannau’r ymchwil eu defnyddio ledled Ewrop mewn ymgais i sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon mewn adeiladau ac ardaloedd.
Meddai’r Athro Rezgui: “Mae elfen amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd gref i’r gwaith.
“O safbwynt amgylcheddol, bydd y gwaith yn cyfrannu at gyflawni targedau ynni a lleihau carbon yr UE, a weithredir gan y DU, gan arwain y ffordd at amgylchedd adeiledig mwy cynaliadwy.
“O safbwynt cymdeithasol, bydd y gwaith yn helpu i leddfu ar broblem hollbwysig tlodi tanwydd, yng Nghymru’n arbennig.
“O safbwynt economaidd, bydd yr ymchwil yn hyrwyddo modelau busnes newydd ar draws y gadwyn gwerth ynni gyda photensial cryf i greu swyddi yn y sector ynni.â€
Mae canolfan BRE y Brifysgol yn gweithio gyda’r BRE - sef yr awdurdod sy’n rheoleiddio’r amgylchedd adeiledig yn y DU - i wella adeiladau drwy ymchwil a gwybodaeth.
Mae’r tri phrosiect yn cynnwys nifer o bartneriaid o wledydd sy’n cynnwys y DU, yr Eidal, yr Almaen, Sbaen, Ffrainc, y Swistir, Gwlad Belg, y Weriniaeth Tsiec ac Iwerddon.
Y prosiectau yw:
piSCES (£380,000)
Gwaith i leihau costau ac ôl-droed carbon rhwydweithiau ynni yn y diwydiant prosesu pysgod. Ymhlith y partneriaid mae Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau (APA). O fewn eu cylch gwaith mae safle casgliad solar 5MW ger y porthladd sydd wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r grid. Bydd piSCES yn integreiddio’r ased hwn i fatrics ynni’r porthladd gan greu buddion i APA sy’n unol â’i strategaeth ynni.
THERMOSS (£300,000)
Prosiect rheoli ynni Ewropeaidd sydd am oresgyn rhwystrau at fanteisio ar systemau Gwresogi ac Oeri Ardal (GOA) yn Ewrop, gan gynnwys yn y DU, drwy ddylunio’r genhedlaeth nesaf o GOA gyda chyfran sylweddol a mwy o ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd gweithredol ac effaith lai ar yr amgylchedd. Mae THERMOSS yn canolbwyntio ar adeiladau preswyl sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau gwresogi, gan gynnig ateb sy’n helpu i gysylltu anheddau hen a newydd.
PENTAGON (£300,000)
Nod PENTAGON yw creu cenhedlaeth newydd o eco-ardaloedd sy’n manteisio ar ystod eang o ffynonellau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, a alluogir gan wasanaethau rheoli ynni datblygedig sy’n gweithredu ar gludwyr ynni gwahanol (thermol, nwy a thrydan). At hynny, mae’r prosiect yn ymchwilio i ddefnydd technoleg cadwraeth ynni (gan gynnwys pŵer i nwy) i wella hyblygrwydd y cyflenwad ynni. Mae Cyngor °¬²æAƬ yn rhan o’r gwaith, ar safle The Works ar hen waith dur Glyn Ebwy, fel rhan o’r ymdrechion i leihau tlodi tanwydd yn y fwrdeistref sirol.
Mae ymchwilwyr yng nghanolfan BRE y Brifysgol hefyd yn datblygu llwyfan efelychiad ynni i helpu rheolwyr y cyfleuster, gan gynnwys rheolwyr ynni, i optimeiddio gweithrediad eu systemau ynni.
Defnyddir y dull efelychu yn y tri phrosiect, a hefyd ar saith safle ledled Ewrop.
Daw’r cyllid ar gyfer THERMOSS a PENTAGON o Horizon 2020, y rhaglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf erioed yn yr UE, gyda bron €80bn o fuddsoddiad ar gael dros y saith mlynedd i 2020.
Mae arian yr UE ar gyfer piSCES yn dod o’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy raglen Gydweithredol Cymru Iwerddon. Rhaglen forol yw hon sy’n cysylltu sefydliadau, busnesau a chymunedau ar arfordir gorllewin Cymru ag arfordir de-ddwyrain Iwerddon.