°¬˛ćAƬ

Arddangosiadau tân gwyllt

Mae noson tân gwyllt yn agosau ac mae Cyngor °¬˛ćAƬ yn gofyn i drefnwyr arddangosiadau tân gwyllt i gofrestru eu digwyddiad gyda ThĂ®m Iechyd yr Amgylchedd.

Bob blwyddyn ar draws y Deyrnas Unedig mae damweiniau y gellid eu hosgoi yn digwydd yn ystod digwyddiadau tân gwyllt a all arwain at anafiadau difrifol i'r rhai sy'n mynychu a hefyd yn trefnu digwyddiad. Mae'r cynllun rhad ac am ddim hwn yn cynnwys digwyddiadau wedi eu trefnu o bob maint a bydd yn helpu i sicrhau fod pawb yn cael noswaith hapus heb ddamweiniau.

Bydd swyddogion o'r cyngor yn cynnig canllawiau cyn y digwyddiad i'r rhai sy'n cynllunio ac yn rhedeg arddangosiadau yn y fwrdeistref sirol a gallant ymweld cyn y digwyddiad a hefyd yn ystod y digwyddiad. I gael mwy o wybodaeth ar y cynllun cofrestru, cysylltwch â ni ar 01495 357813. 

Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ:

“Diogelwch yw'r ystyriaeth bwysicaf yng nghyswllt tân gwyllt ac mae ein staff iechyd yr amgylchedd wedi eu hyfforddi i drefnu trefnwyr arddangosiadau tân gwyllt. Maent yn cynnig help a chyngor i drefnwyr digwyddiadau tân gwyllt cyn yr arddangosiadau a hefyd yn aml ar noswaith y digwyddiad. I wneud hyn, mae'n rhaid iddynt fod yn gwybod fod digwyddiad yn cael ei gynnal felly gofynnir i chi gofrestru a chadw'n ddiogel”.