°¬²æAƬ

Archwilio'r Dyfnderoedd

Cwmni sy'n seiliedig yn Nhredegar yw MetroRod sy'n darparu gwasanaethau draenio a phwmpio ar gyfer cwsmeriaid masnachol a phreswyl. Yn dilyn cefnogaeth o £20,000 gan Grant Datblygu Busnes °¬²æAƬ, maent wedi diweddaru eu cyfarpar i ddarparu gwell gwasanaeth i'w cwsmeriaid.

Dywedodd Ben Witcomb o MetroRod, "Roedd ein cyfarpar yn cyfyngu ar y gwasanaethau y gallem eu darparu i'n cwsmeriaid. Roedd yn iawn ar gyfer draeniau diamedr llai ond ni allai ymdopi â'r systemau mwy. Un o'n cwmnïau mwyaf yw Welsh Water / Dwr Cymru, rydym yn gweithio iddynt ar draws De-ddwyrain Cymru, ar draws Powys ac ar draws y ffin yn Hereford a Gloucester.’

'Heb y grant ni fyddai wedi gallu prynu'r offer ac roedd cyflogaeth 2 o weithwyr mewn perygl. Mae'r grant wedi ein galluogi i brynu offer diweddaraf mewn fan camera sy'n ein galluogi ni i arolygu systemau seilwaith hyd at 1200mm mewn diamedr. Yn bwysicach fyth, mae wedi sicrhau cyflogaeth i ddau o'n gweithwyr.'

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Metrorod yn stori lwyddiant lleol gwych sy'n tyfu o ddechrau yn 2012 i fod yn awr yn 41 o weithwyr ac yn troi dros sawl miliwn o bunnoedd. Mae'n wych gweld cwmni lleol yn tyfu a'u cefnogi i wneud pethau mwy a gwell.'

Ariannodd Grant Datblygu Busnes °¬²æAƬ gan Gronfa Lles Rhanbarthol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli ym Mlaenau Gwent.

Cynghorydd John Morgan & Ben Witcomb (Cadeirydd Cwmni - Metro Rod)

Ben Witcomb (Cyfarwyddwr Cwmni - Metro Rod), Nathan Hale a Gareth Chappell (Metro Rod) a'r Cynghorydd John Morgan